ANN OWENS. LAKE CRYSTAL, BLUE EARTH COUNTY, MINNESOTA.
Rhagfyr 30ain, 1918, hunodd Mrs. Hugh G. Owens, wedi ond rhan o ddau ddiwrnod o salwch o dan enyniad yr ysgyfaint. Nos Sadwrn, Rhagfyr 28, yr oedd yn teimlo yn iach ac yn llawn sirioldeb pan yn myned i orphwys, ond yn mhen ychydig oriau, tarawyd hi megys yn farwol, fel pan ddaeth Dr. Hugh Williams, ei hwyr, gwelai fod yr afiechyd wedi gafael yn ei chyfansoddiad, ac er holl allu y meddygon, y plant a llu o gyfeillion, disgynodd yn gyflym i lawr y glyn, fel erbyn prydnawn Llun, Rhagfyr 30ain, ehedodd ei hysbryd i fyd yr ysbrydoedd.Ganwyd Mrs. Owens, Mai 21ain, 1838, yn Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Hugh Thomas.
Yn y flwyddyn 1853, ymfudodd y teulu i'r wlad hon, a buont yn aros yn ardal Utica, New York, am tua dwy flynedd, pan y symudasant i La-Crosse, Wisconsin. Yma, yn y flwyddyn 1859, unwyd hi mewn priodas a Mr. Hugh G. Owens, ac yma y buont yn cartrefu am y deng mlynedd cyntaf o'u bywyd priodasol. Yn y flwyddyn 1869. symudasant i dalaeth Minnesota, a sefydlasant ar fferm yn Cambria, lle y buont yn ymdrechgar a darbodus hyd y flwyddyn 1900. Yr adeg hon, daethant i'r dref hon, Lake Crystal, i gartrefu.
Deuddeg mlyneid yn ol, collodd ei phriod, yr hyn oedd yn ergyd drom iddi; er hyny, gallodd ymdawelu a rhoddi ei holl ofal ar Farnwr y weddw yn y dydd blin.
Hynodid Mrs. Owens fel un gymwynasgar mewn adegau o afiechyd yn mysg ei chymydogion. Byddai hi bob amser yn barod i estyn cymwynas a help. Yr oedd hefyd yn hynod am ei sirioldeb. Er wedi myned i wth o oedran yr oedd rhyw asbri ieuengaidd yn ei hynodi hyd y diwedd. Llawer egwyl ddifyr a gafodd eich gohebydd gyda hi, oherwydd ei hysbryd nwyfus a siriol, hyd yn oed pan na byddai yn teimlo yn dda o ran ei iechyd.
Yr oedd yn blaen yn ei hymwneyd a phawb fel os wedi pechu yn ei herbyn, nid gwiw dysgwyl ond y wialen y tro cyntaf y cyfarfyddem a hi, yna pob peth yn dda, wedi'r wialen gael ei defnyddio; dim dig wedi hyn.
Bu yn ffyddlawn i'w dyledswyddau crefyddol tra y bu ei iechyd yn ei galluogi i ddylyn y gwersyll. Colled fawr colli mam yn gweddio. Pwy all ddirnad y golled hon? Beth ddeilliaw o'r gweddiau? Gadawodd chwech o blant i alaru ar ol mam hynod o dyner, sef Mrs. Owen Williams, Mrs. D. V. Jones, Mrs. Hugh Owens, Joseph Owens, Miss Maggie E. Owens, Lake Crystal; a Thomas Owens, Mackville, South Dakota; ac un i chwaer, Mrs. Elizabeth Randall, a brawd, Joseph Thomas, Rockford, Minnesota.
Dydd cyntaf y flwyddyn, daearwyd ei rhan farwol yn mynwent brydferth Lake Crystal, wrth ochr ei phriod. Oherwydd yr anwydwst. bu y gwasanaeth yn y cartref. Gweinyddwyd gan ei gweinidog, y Parch. H. C. Griffiths. Chwith fydd peidio cael ei chwmni, ond huned yn dawel hyd foreu codi.