EVAN G. OWENS. DENVER, COLORADO.

Unwaith eto mae genym y gorchwvl annymunol o gofnodi marwolaeth un o hen frodorion y rhanbarth hwn o'r wlad, sef Evan G. Owens, "y gunsmith," fel yr oedd pawb yn ei adnabod. Daeth awr y terfyn o fywyd anturiaethus a helbulus ddydd Sul, Medi 8fed, yn nghartref ei nai, fab ei chwaer, Hugh R. Ellis, ar 1355 Adams Street, pan yr oedd yn agos i 82 mlwydd oed. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn ystafell yr undertakers ddydd Mawrth, Medi 10fed, pan yr oedd y Parch. John Williams, gweinidog yr eglwys Gymreig. yn gwasanaethu, a llawer o hen gyfeillion yr ymadawedig wedi dyfod yn nghyd i dalu y parch diweddaf iddo, cyn hebrwng ei weddillion i orwedd yn mynwent Riverside.

Yn mhlith y brodorion Cymreig oedd yn gyfarwydd a'r ymadawedig am lawer o flynyddau ac yn bresenol, heblaw eich gohebvdd, oedd Thomas G. Owens o'r Cambrian Coal Company; Mr. a Mrs. W. A. Brubaker, John G. Jenkins, John G. Roberts, diweddar Idaho Springs; R. R. Griffith, Mrs. Pierce Roberts. D. J. Williams (Dafydd Maesteg), W. E. Richards. John P. Jones, Lewis Llewelyn, ac eraill nad wvf yn cofio eu henwau; yr oll yn ymadael a'u hen gyfaill gyda chofion caredig am dano, a'u cysylltiad mewn amrywiol ffyrdd sydd wedi nodweddu ein hanes fel Cymry yn y rhan hon o wlad y gorllewin.

Yr oedd rhai o honom yn adnabod E. G. Owens er's mwy na deugain mlynedd. Cyn hyny, a blynyddau ar ol hyny, ychydig o Gymry oedd yn Denver, yn enwedig yn gyhoeddus ac yn dylyn rhyw fath o fasnach fel yr oedd Mr. Owens. Efe oedd yn cadw stor ynau ar 17th Street, ac ar ol hyny ar Larimer Street, ac yn ddiweddaf oll ar Curtis Street, congl 16th Street. Y pryd hwnw, yn nechreu y flwyddyn 1880, yr oedd y poblogaidd James Thomas yn cadw stor glociau ac oriaduron, a Llewelyn Rees yn rhedeg gwesty St. Charles, prif gyrchfan pawb Cymry fyddai yn ymweled a'r lle. Mae Llewelyn Rees erbyn heddyw uwchlaw ei ddigon yn Denver, a James Thomas yn gwneyd yn dda yn San Diego, California.

Yn araf iawn yn y blynyddau dylynol y daeth y Cymry i sylw a chynyddu mewn rhif a defnyddioldeb. Gwnaeth sefydliad y Cambrian Society lawer dros y Cymry drwy eu hundeb a chymdeithasau y Seison a'r Ysgotiaid o dan yr enw y "British Union Clubs" pan yr oodd Evan G. Owens yn egniol bob amser yn cynorthwyo eu symudiadau.

Ond prif nodweddion bywyd Mr. Owens oedd ei fawr ymdrech parthed politics, ac yn y cyfeiriad hyny gwnaeth ei oreu i bleidio y Republicans yn gyson hyd y diwedd. Yn rhinwedd ei alwedigaeth fel gwneuthurwr gynau a llawddrylliau yr oedd yn hoff o helwriaeth, ac yn ddychryn i'r ychain gwyllt, y ceirw a'r ysgyfarnogod. Mynych y byddai yn mynd ar ymgyrch i wersylloedd helwriaeth yn y Mynyddau Creigiog, pan oedd fyw General Custer, Buffalo Bill ac eraill o'r un dosbarth.

Yr oedd ein harwr mewn amgylchiadau pur gysurus mewn ystyr fasnachol hyd amser y panic dinystriol yn 1893. Bu yr achos o hwnw yn ddifrod ofnadwy i lawer heb law Mr. Owens, a gorfu iddo mewn canlyniad golli ei eiddo a rhoi fyny ei fasnach. Er hyny, daliodd yn wrol i wrthsefyll yr amgylchiadau yn nghyd a marwolaeth ei briod yn fuan ar ol hyny, oblegid yr oedd ei grefft ganddo, a nerth a iechyd i'w dylyn. Felly, penderfynodd gael wagen a cheffylau a cychwyn shooting gallery a theithio o dref i dref i enill ei fywiolaeth. Hyny a fu er llwyddiant tra parhaodd yr iechyd. Ond o'r diwedd daeth henaint i'w orfodi i roi fyny ychydig amser yn ol, pan y cafodd dreulio gyda charedigrwydd ei nai. Mr. Hugh R. Ellis, y gweddill o'i ddyddiau gyda thynerwch arbenig y teulu.

Ganwyd Evan G. Owens yn Llanegryn, Meirionydd, yn ardal Harlech, ac o dan gysgod Cader Idris Ebrill 13eg, 1837. Nis gwyddom pa bryd yr ymfudodd i'r Amerig ac ymsefvdlu yn Kansas ond yr oedd yma mewn pryd i ymrestru yn y Rhyfel Cartrefol, a bod yn un o'r G. A. R. Lincoln Post. Daeth i Denver tua'r flwvddyn 1867, ac yma y bu yn cartrefu hyd yn ddiweddar, pan y terfynodd ei yrfa o dan gronglwyd Mr. Ellis, sef mab chwaer iddo. Yr oedd rhieni Hugh R. Ellis wedi sefydlu ar fferm yn agos i Lebo. Kansas, pan oedd Hugh yn 14 oed. Bu yn ngwasanaeth y Tramway Company am naw mlynedd, ac yn bresenol efe yw y prif beirianydd i'r Hungarian Mills Denver, a brawd iddo. Fred Ellis, yn conductor ar y tramway.
Gan Lewis Brycheiniog.

Y Drych ~ Hydref 3ydd 1918.