JANE OWEN PAYNTER. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.
Chwefror 20fed, 1918 bu farw yn sydyn yn nghefn ei thy ar Fifth Street, Slatington, o ddolur y galon, Mrs. Jane Paynter. priod Robert Paynter, yn 60 mlwydd oed.Gadawodd briod a phump o feibion ac un ferch: William a John yn Penargyle, Robert a David yn Allentown; Griffith yn Slatington, a Blodwen. sef Mrs. Rober Griffith yn Bethlehem.
Claddwyd y Sul canlynol; cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn addoldy Bethel, lle yr oedd yn aelod, a gwasanaethwyd gan y gweinidog, sef y Parch. R. D. Williams.
Ganwyd yr ymadawedig yn Methesda, Arfon, a bu y teulu yn trigianu am rai blynyddau yn Lansford, Wind Gap a Bangor; hefyd buont yn ol yn Nghymru yn byw am rai blynyddau.
Byddai y chwaer, Jane Paynter yn hoff iawn o darllen y 'Drych' gan fod y teulu yn ei dderbyn er's rhai blynyddau.
Y Drych ~ Mawrth 7fed, 1918.
JANE OWEN PAYNTER. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.
Ar yr 20fed o Chwefror, bu farw yr hen chwaer siriol, Mrs. Jane Paynter, yn sydyn iawn yn ei chartref ar Franklin Street.Genedigol ydoedd yr ymadawedig o ochr Llanberis, Gogledd Cymru.
Gadawodd i alaru am ei cholli ei phriod, Robert Paynter. Genedigol o Fethesda, Arfon yw efe a'r plant, Griffith. William, John, Robert, David a'r ferch, Blodwen.
Nodded y nef a fyido trostynt.