OWEN L. OWENS. LEBO, COFFEY COUNTY, KANSAS.

Un i gefnu ar fyd o amser ydoedd y brawd rhagorol, Owen L. Owens.

Ganwyd ef yn Dolgellau, Gogledd Cymru, Rhagfyr 8fed, 1849, a bu farw yn ei gartref cysurus yn Lebo, Kansas, Mawrth 31ain, 1918.

Ymfudodd i'r wlad hon pan ond llanc 19 oed, a dywedir gan rai sydd yn cofio ei fod yn fachgen iach cryf, ac yn llawn bywyd yr adeg hono. Yr oedd wedi dod i'r America fel llawer dyn ieuanc arall i geisio gwellhau ei amgylchiadau tymorol, a thrwy benderfyniad diysgog a llafur diflino Ilwyddodd yn ei ymgais, a daeth i'w feddiant ran lled helaeth o bethau angenrheidiol y byd hwn.

Mae yn debyg mai tra yn gweithio yn mwngloddiau Colorado y daeth i gyffyrddiad a'r hon a fu wedi hyny yn gydmar bywyd iddo, sef Miss Elizabeth (Conway) Jones. Fodd bynag, 20fed o Fehefin, 1874, gwnaed y ddau yn un, a phrofodd yr uniad yn un hapus ryfeddol hyd o fewn saith mlynedd yn ol pan gymerwyd ei briod hawddgar oddiwrtho.

Ganwyd iddynt bedwar o blant; bu dau farw yn eu babandod, ac y mae dwy ferch yn byw yn Lebo, sef Mrs. George Reid a Mrs. Dr. Jones.

Bu Owen Owens jll nychu am fisoertd lawer; ymgyngorodd a meddygon goreu y wlad er ceisio adferiad, ond fel arall y bu; angen a orfu. Dyoddefodd lawer yn el ddyddiau olaf, a hyny yn berffaith dawel ac amyneddgar, a foreu Sul y Pasg, ehedodd ei ysbryd at y Duw a'i rhoes.

Ddydd Mawrth canlynol ymgasglodd tyrfa fawr i gapel yr M. E. yn Lebo i dalu y warogaeth olaf o barch i goffadwriaeth un a fawr hoffid gan bawb yn ddiwahaniaeth. Siaradwyd ymadroddion cysurlawn i'r teulu gan ddau o weinidogion Emporia, sef Parch. Mri. Richards a Morgan, y ddau yn gyfeillion mynwesol i'r ymadawedig er's llawer o flynyddoedd. Tystiai y Parch. Richards ei fod yn bresenol 30 o flynyddau yn ol yn angladd un o blant Mr. Owens; saith mlynedd yn ol yr oedd yn angladd y fam, a'r tro hwn dyma'r tad wedi myned, a gwnaeth sylwadau amserol i'r amgylchiad.

Y Parch. H. P. Morgan a wnaeth sylwadau rhagorol ar dair o elfenau amlycaf yn nghymeriad ei gyfaill, sef diniweudrwydd, cymdeithasgarwch a lletygarwch. Amlwg ydoedd fod y ddau frawd hyn yn teimlo i'r byw y rhwyg oedd angeu wedi ei wneyd yn y cyfeillgarwch. Dylaswn nodi hefyd fod nith i Mr. Owen wedi dod yma o Gymru i ofalu am ei hewyrth, sef Miss Jane Owens, a bu yn hynod ofalus o hono. Mae y chwaer garedig hon yn haeddu clod uchel am aberthu cymaint.

Claddwyd yn Arvonia, wrth ochr ei briod.

Y Drych ~ Mai 2ail, 1918.