CADWALADER WILLIAM PARRY. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Taflwyd yr ardal i dristwch mawr ar y 29ain o Fawrth yn marwolaeth y brawd Cadwalader William Parry. Fe'i cymerwyd ef yn wael i ddechreu ar y 24ain o Fawrth o'r pneumonia, ac o herwydd gwendid ei gyfansoddiad, fe wnaeth y gelyn hwn waith buan arno.

Ganwyd ein hanwyl frawd yn Dinorwig, Llanberis, Gogledd Cymru, ar y 22ain o Ionawr, 1850. Ymfudodd i'r wlad hon pan yn ddwy-ar-bymtheg oed, gan sefydlu yn Salem am rai blynyddau, ac yno fe ddechreuodd agor chwarel. Oddi yno fe ddaeth i South Poultney, ac yma eto parhaodd i agor chwarelau. Ei bartneriaid yma oeddynt Moses J. Jones a Thomas J. Roberts.

Ar y 27ain o Fedi, 1876, fe ymbriododd a Miss Jane Roberts yn Middle Granville, ac oddi yno fe aeth am ei fis mel i Centennial Philadelphia, ac oddi yno i Indianapolis, Indiana, lle y treuliodd rai blynyddoedd yn gwerthu llechau dros y cwmni Jones Roberts and Parry. Dychwelodd oddi yno drachefn i South Poultney, a'r tro hwn fe adeiladodd gartref cysurus, lle yr arosodd. Fe anwyd iddynt wyth o blant, o ba rai y mae chwech yn fyw.

Yn Ebrill, 1895, bu farw ei anwyl briod gan ei adael gydag wyth o blant amddifad i ofalu am danynt. Yn Ionawr, 1903, fe ymbriododd gyda Mrs. Richard W. Jones. yn yr hon y cafodd briod hawddgar a mam dirion i fagu ei blant. Cafodd oes a llawer o stormydd profedigaethau bywyd ynddi, ond yr oedd fel ehedydd yn gallu hedeg uwchlaw y cyfan i wybr laswen ewyllys ei Dad nefol, ac yn gallu canu, "Gwneler dy ewyllys o Arglwydd." Yr oedd ei dawelwch a'i amynedd yn profi hyny. Nodwedd arall amlwg yn ei fywyd oedd ei wastadrwydd mewn haf a gauaf - gyda'r pethau, sef pethau crefyddol. Yr oedd y blaenor hynaf y dyffryn. Oes o ffyddlondeb oedd ei fywyd i'w Waredwr, bydded haf neu auaf ar grefydd; os y byddai pethau croes yn codi i ddigaloni dynion, mi fyddai Cad yn gallu gweld yr ochr oleu i'r cwmwl bob amser. Nid oedd' digalondid yn ei eiriadur o gwbl. Ni fyddai yn siarad fawr yn gyhoeddus ond yr oedd ganddo ffydd yn llawn o weithredoedd. Ni fyddai rhodres o gwbl yn ei ymwneyd ef.

Yr oedd yn un o ddinaswyr mwyaf cadarn yn yr ardal, ac yr oedd wedi bod yn un o'r School Directors er's blynyddau bellach, ac wedi gwasanaethu goreu allai gyda hyn. Chwith yw ei golli o bob cylch; y mae ei gadair yn wag gartref, a'i sedd yn y capel yr un modd, ond y mae wedi etifeddu cadair am byth mewn haf gwyrddlas ar fryniau anfarwoldeb.

Gedy i alaru ar ei ol weddw a chwech o blant. Mrs. W. R. Hughes, Florence a Mina Parry, Ellis William a John, oll yn trigo yn yr ardal yma a Poultney, ac nid oes genyf ond dymuno i nodded y nef fod drostynt fel gweddw a phlant, ac i chwi geisio rhodio yn llwybrau eich tad.

Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. John W. Morris, South Poultney; W. O. Williams, Granville; W. D. Thomas, Middle Granville, a R. W. Owens. Fair Haven.
Cyfall.

Y Drych ~ Mai 23ain 1918.