MAGGIE PARRY ARCHER. FRANKFORT, NEW YORK.

Yn Frankfort, New York, wedi ychydig dyddiau o waeledd, bu farw Mrs. Earl Archer. Ei henw morwynig oedd Maggie Parry. Daeth i'r wlad hon tua 10 mlynedd yn ol o Garn Dolbenmaen. Yr oedd yn adnabyddus i luaws o Gymry Utica a'r cylchoedd, ac yn fawr iawn ei pharch gan bawb. Brydnawn dydd Iau am ddau o'r gloch o ystafelloedd Cassidy, Utica, cymerodd ei chladdedigaeth le. Nid wyf yn cofio enw v pregethwyr ar hyn o bryd. Ond fe gafodd Maggie gladdedigaeth barchus dros ben.

Rhddwyd ei gweddillion i orphwys mewn llecyn dymunol yn Forest Hill Cemetery. Gadawodd i alaru ar ei hoi. heb law ei phriod, ddwy eneth fach, ac amryw o berthynasau agos iddi.

Y Drych ~ Hydref 31ain, 1918.