MORRIS H. PARRY. DENVER COLORADO.
Derbyniodd Mrs. John Hughes Parry, 1116 Park Avenue, fryseb o Denver, Colorado, yn hysbysu fod ei brawd-yn-nghyfraith, Morris H. Parry, wedi marw yn ei gartref yn Denver, Colorado.Brodor o Dinorwig, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, oedd yr ymadawedig, a daeth i'r wlad hon pan yn ieuanc, a threuliodd y rhan helaethaf o'i amser yn Denver. Bu hefyd am dymor yn Alaska.
Yr oedd yn aelod o'r eglwys Gymreig yn Denver, ac yn adnabyddus i lawer o Gymry yn y cylchoedd hyn, ac yn New York ac yn Vermont. Gedy mewn galar ar ei ol un brawd, Robert H. Parry, o New York; dau nai, Trevor Hughes, o'r ddinas hon, a J. Henry Parry, o Medina; a dwy nith. Misses Gwladys ac Olwen Parry, o'r ddinas hon.
Y Drych ~ Mehefin 6ed, 1918.
MORRIS H. PARRY. DENVER COLORADO.
Morris was born in Dinorwig, Caernarfonshire, and emigrated to the USA about 1863 and worked for a time in the slate quarries in Salem, New York and Poultney, Vermont. He became a citizen in 1872.He moved to Colorado by 1880 and engaged in silver mining in the Cripple Creek and Ouray area. He later went to Saguache, Colorado and became a rancher circa 1883. By 1914 he had moved to Denver.
Find a Grave.
MORRIS H. PARRY. DENVER COLORADO.
Gwelwn grybwylliad yn y "Drych" am Mehefin 6ed, am farwolaeth Morris H. Parry, yr hyn a gymerodd le yn y ddinas hon ddydd Sul, Mehefin 2ail. Gan mai bryseb anfonwyd i Mrs. J. Hughes Parry i Utica, bydd ychwanegiad o'r manylion yn dderbyniol gan luaws mawr o gyfeillion yr ymadawedig yn yr Hen Wlad a Thalaethau gorllewinol America. Yn Denver y byddai yn treulio ei amser hamddenol y blynyddau diweddaf, er na ddarfu iddo erioed sefydlu cartref na phriodi; eto yr oedd yn hynod gartrefol a charedig pa le bynag y byddai fel yr oedd croesaw calon iddo bob amser.Yn ddiweddar, yr oedd o dan ofal ei barchus gyfeillion, Mr. a Mrs. J. O. Jones, diweddar o Nantlle, Arfon, lle yr oedd yn gysurus iawn fel un o'r teulu, ac mewn parch cyffredinol gan ei gyd-genedl yn y cylchoedd hyn, yn enwedig yn yr eglwys Gymreig, lle yr oedd yn aelod ffyddlon a chymeradwy. Ar ol blynyddau o lafur caled yn y mwn-gloddiau, yr oedd effeithiau llwch yr aur a'r arian wedi tori lawr ei iechyd i raddau mawr, nes yr oedd ei ystumog yn pallu gweithredu yn naturiol. Y canlyniad oedd iddo dderbyn cyngor y meddygon i fynd o dan operation i symud y rhwystr. Hyny a fu yn llwyddianus, yn ol tystiolaeth y meddygon goreu yn ysbyty St. Joseph. Ond yr oedd gwendid y corff yn analluog i adferiad nerth digonol i barhau y bywyd, a doedd dim i ddysgwyl ond y diwedd.
Yr oedd yr ymadawedig yn ddiau wedi credu fod dydd ei ymddatodiad yn agos fel yr oedd wedi trefnu pob peth yn barod, a gosod gofal ei feddianau yn llaw ei gyfaill, Mr. Edward O. Williams, na'r hwn nis gallasai ddewis neb mwy ymddiriedol.
Dydd Iau, Mehefin 6ed, cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn y capel Cymraeg, pan y daeth cynulliad lluosog yn nghyd i ddangos ei parch diweddaf i'w hanwyl gyfaill, Morris H. Parry. Yr oedd y gwasanaeth yn syml a tharawiadol, ac anerchiad y gweinidog, sef y Parch. John Williams, yn dda iawn, a chyson a bywyd crefyddol ein diweddar frawd. Yr oedd cydymdeimlad ei hen gymydogion yn amlwg gyda Miss Gwladys Parry, o Utica; yr unig berthynas agos yn yr angladd, sef merch i'r diweddar Barch. J. Hughes Parry, o Utica, New York.
Brodor o Dinorwig, Arfon, oedd Morris H. Parry, ac yn hanu o deulu adnabyddus ac enwog yn yr ardal enwog hono o Wynedd, wrth odreu y Wyddfa fawr, amddiffynfa gadarn y Cymry yn yr oesau gynt. Tad Morris H. Parry oedd Henry Parry, hen flaenor enwog yn Dinorwig am flynyddau lawer; crydd wrth ei alwedigaeth, ac un o'r cymeriadau mwyaf annibynol ei farn, ac ymddiriedol ei gyngor. Mae coffadwriaeth dda am dano hyd y dydd heddyw. Yr oedd iddo frodyr, sef y Parch. J. Hughes Parry a Hugh H. Parry, Caernarfon, ond sydd wedi ei flaenori i wlad sydd well i fyw gan adael ar ol yn fyw frawd, Robert H. Parry, yn Philadelphia, Pennsylvania; dwy nith yn Utica, sef Miss Gwladys Parry a Miss Olwen Parry, a nai yn Medina, New York, sef Henry Parry, a nai arall yn Utica, sef Trevor Hughes, Utica.
Perthynas enwog i'r teulu oedd brawd mam Morris H. Parry, sef y Parch. Morris Hughes, Felinheli, Arfon. Pa ryfedd fod gwreiddyn y mater wedi dadblygu cymeriad mor bur a'r diweddar Morris Parry. Dechreuodd Morris H. Parry ei ymdaith i America pan yn 18 mlwydd oed, gan sefydlu yn Granville, New York, lle y bu yn gweithio yn y chwareli. Yr oedd hyn yn y flwyddvn 1870. Yn fuan ar ol hyny darbwyllwyd ef i fyned yn mhellach i'r Gorllewin. ac i Colorado y daeth, a bu am dymor yn gwasanaethu ar ranch yn San Luis Valley. Gan ei fod yn ddyn ieuanc anturiaethus, a bod cryn gynyrfiadau yn mhlith ymfudwyr ar ol y mwngloddiau aur yn 1878 a 1879, cawn i Morris H. Parry ddylyn y llu a mynd i Leadville i chwilio am yr aur; ar ol hyny i Silverton, Cripple Creek, a Montana, ac yn ddiweddaf yn Russell Gulch a Idaho Springs. Tebyg iddo lwyddo a bod yn berchenog trwy lawer o lafur a helbulon o fywyd y mwnwyr o ran dda o'r llwch melyn nodweddiadol.
Tra yma yn Colorado, bu ar ymweliad amryw weithiau ag ardal ei enedigaeth, ond yn dychwelyd bob tro i Denver, lle yr oedd pawb yn hoff o'i groesawu, a meddwl yn fawr o hono. Pan yn dychwelyd o Lerpwl ddiweddaf yn 1915, yr oedd ar fwrdd y Lusitania, sef y tro diweddaf i'r llong anffodus hono groesi y mor. Yr oedd Morris H. Parry yn 66 oed, pan yn ffarwelio a gwlad y ddaear, mewn dyogel obaith i gyraedd yr orphwysfa sydd eto'n ol i bobl Dduw.
Oddiwrth Lewis Brycheiniog.