WILLIAM J. PARRY. PLAINFIELD TOWNSHIP, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Drwg genym gofnodi marwolaeth y brawd William J. Parry, mab i Mr. a Mrs. John Parry, Jenkingtown, Pennsylvania, yn 38 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Talysarn, Llanllyfni, Gogledd Cymru, yn y flwvdlyn 1882. Daeth y teulu i'r wlad hon, i Fangor, Pennsylvania, i ddechreu, ac oddiyno i Wind Gap, Pennsylvania, lle y buont yn cartrefu am lawer o flynyddoedd. Chwe mlynedd yn ol symudasant i Jenkintown, ond arosodd eu mab, William, yn yr hen ardal, oedd mor gysegredig ganddo. Y blynyddau diweddaf dechreuodd waelu gan anhwylder y galon, a ryw chwe mis yn ol daeth at ei rieni; yr afiechyd wedi newid ei wedd ac wedi troi er gwaethaf iddo.
Ddydd Iau, Tachwedd 12fed, ehedodd ei enaid at yr Hwn a'i rhoes, a chladdwyd ei weddillion yn mynwent Plainfield, ger Wind Gap, Tachwedd, 17eg, ein gweinidog, y Parch. R. E. Williams, yn gweinyddu. Daeth llu mawr yn nghyd o barch iddo ef a'i deulu. Cafodd William droedigaeth amlwg yn ddiweddar, fel tystiai y gweinidog a'i deulu. Anwylwn ei fam oedd ac un a feddyliai y byd lawer o honi. Heddwch i'w lwch.
Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr. a Mrs. John Parry yn yr eglwys Gymreig, lle y maent yn aelodau ffyddlon.