JANE PICKEN. JERSEY CITY, NEW JERSEY.
Mae genyf y gorchwyl pruddaidd y tro hwn eto o gofnodi marwolaeth un oedd yn anwyl iawn genyf, sef fy nghyfnither, Jane Williams Picken, neu fel yr adnabyddid hi oreu o gylch Slatington. Pennsylvania, Jane Mynydd Glas. Er yn ddynes fawr, gref, bu farw mewn eiliad, bron cyn i neb ei gweled.Ddydd Llun, Mehefin 17eg, yr oedd wedi bod yn golchi golchiad mawr, ac wedi trefnu y ty i fyny wedi cwblhau hyny, ac yna aeth ati i wneyd swper erbyn i'r teulu ddod o'u gwaith yn yr hwyr, ond rywfodd neu gilydd yr oedd y gwr a'r ferch yn hwyrach yn dod adref y noson hon nag arfer, ond er eu dysgwyl adref, ar ol gwneyd pob peth yn barod, aeth allan ar y porch i gael ychydig awyr, ac eisteddodd ar y gadair a bu farw heb neb fod yn agos ati. Pan ddaeth y teulu adref, y fam wedi marw; yr oeddynt yn methu sylweddoli y peth.
Ganwyd hi yn Felin Fargoed, Fachwen, Gogledd Cymru, Awst, 1852, ac yn Ebrill, 1853. pan nad oedd hi ond rhyw wyth mis oed, daeth ei thad a'i mam, sef John ac Ellen Williams, Bryn 'Refail, drosodd i'r wlad hon.
Mis Mawrth diweddaf yr oeddwn yn cofnodi hanes marwolaeth ei hanwyl fam yn y "Drych:" ni bu Jane byth yr un fath ar ol claddedigaeth ei mam, effeithiodd hyny yn fawr arni. Yr oedd wedi byw y rhan fwyaf o'i hoes yn ninas New York, ac wedi gwneyd yn dda o bethau y byd hwn yno. Tua tair blynedd yn ol prynodd y teulu dy mawr a helaeth ar Wade Street, Jersey City, ac yno yr oeddynt yn byw. Er ei bod hi wedi ymbriodi a Sais, a'r oll o'r teulu yn Saeson, yr oedd gan Jane gystal Cymraeg a'r un a ddaeth o Gymru erioed, er mai anfynych iawn y byddai hi yn cael y cyfleusdra i'w siarad. Ni byddai dim ond Cymraeg rhyngom pan fyddwn ar ymweliad a hi. Dyma addysg i blant Cymry America, gwn am rai plant nad oes dim llawer er pan y daethant o Gymru, ac y maent yn ddigon beiddgar i ddweyd wrthych nad ydynt yn deall y Gymraeg, nac yn gallu ei siarad, ac yn byw yn rhai o'r lleoedd mwyaf Cymreigaidd yn America.
Cymerodd y gladdedigaeth le am 10 o'r gloch y boreu ddydd Iau canlynol yn mynwent New York Bay yn Old Cranville, New Jersey. Gadawodd i alaru ar ei hol ei phriod a phedwar o blant, sef George, Thomas, William a Jennie, yn nghyd ag un chwaer a chwech o frodyr, ac amryw o gyfeillion. Yr oedd Mrs. Mary Roberts, Slatington, wedi dod i'w hangladd. Heddwch i'w llwch.
Thomas L. Williams.