ANNIE PRITCHARD. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Bydd vn ofid blin i lawer o'n darllenwyr wybod am profedigaeth chwerw y brawd a'r chwaer, Mr. a Mrs. Owen Pritchard, Racine, Wisconsin. Cymerwyd eu merch henaf, Annie, yn wael iawn, gyda sydynrwydd brawychus, foreu Llun diweddaf, Hydref 7fed, ac yn mhen pedair awr ar hugain, ehedodd ei hysbryd ymaith at yr Hwn a'i rhoes ef.Pan symudodd y teulu i Racine, ddeunaw mis yn ol, arosodd Anne yn Minneapolis, gan ddylyn ei gwaith heb un ymddangosiad allanol o anhwyldeb; daeth y diwedd yn yr awr na thybiodd neb. Ychwanegir llawer at loes yr amgylchiad gan y ffaith nad allodd ei hanwyl fam gyraedd mewn pryd i'w gweled cyn iddi groesi i'r anweledig. Chwith iawn i ni yw'r syniad o'i cholli cyn ei bod yn lawn 23ain oed. Gadawodd lu o gyfeillion ar ol. Teimla yr eglwys Gymreig yn Minneapolis yn hiraethus iawn. Anwylid hi gan bawb a'i hadwaenai, a perchir ei choffadwriaeth byth.
Cynaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol iddi cyn cymeryd ei gweddillion marwol i Racine, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Joshua T Evans ac S. E. Prytherch. Amlwg ydoedd fod calon pawb oedd yn bresenol yn tori gan alar, ac yn llifo drosodd gan gydymdeimlad a'r teulu yn eu trallod blin. Duw fo yn gymorth iddynt yn y dydd blin yw ein gweddi ddyfal ar eu rhan.
Goh.
Gyda gofid calon yr hysbyswn am farwolaeth y foneddiges ieuanc uchod, sef merch Mr. a Mrs. Owen Pritchard, Racine. Wisconsin. Ganwyd hi yn Llanrug. sir Gaernarfon. Gogledd Cymru, ond pan oedd Annie yn bur ieuanc ymfudodd y teulu i'r wlad hon gan ymsefydlu yn Racine. Tua thair blynedd yn ol symudodd y teulu i'r ddinas hon i fvw, ond byr fu eu harosiad yma. Aethant yn ol i Racine, ond penderfynodd Annie aros yma, am y meddyliai y gallai wneyd yn well. Yn ddiweddar yr oedd wedi cael lle yn swyddfa y Minneapolis Steel and Machinery Company, yn yr hwn le yr oedd yn fawr ei pharch.
Gwnai ei chartref gyda Mr. a Mrs. W. G. Thomas, 3200 Cedar Avenue, ac yr oedd y teulu yn hoff iawn ohoni. Nos Sabboth. Hydref 6ed, yr oedd yn y moddion yn y capel Cymraeg yn edrych mor iach a siriol ag erioed, ond yn fuan ar ol cyraedd i'r swyddfa foreu Llun, cwynai gan boen yn ei phen, a buan y gwelwyd ei bod yn gwaethygu. Cymerwyd hi i ysbyty sydd mewn cysylltiad a'r gwaith, ond prin y cyraeddodd yno cyn syrthio yn anymwybodol, ac anfonwyd hi gyda brys i un o ysbytai y ddinas, yn yr hwn le y cafodd bob gofal meddygol posibl, ond bu farw wedi bod yn anymwybodol am bedair awr ar hugain. Yn y cyfamser yr oedd y cyfeillion wedi anfon bryseb at y teulu i Racine yn hysbysu am waeledd yr eneth ieuanc, a daeth ei mam gyda'r cyfle cyntaf, ond druan o honi, yr oedd ychydig fynydau yn rhy ddiweddar; yr oedd Annie wedi myned ar hyd y ffordd, o'r hon ni ddychwel.
Yr oedd yr ymadawedig yn eneth ieuanc landeg a siriol, cyfarfyddai bawb ar a'i hadwaenai gyda gwen, a thynid sylw dyeithriaid ar yr heol ati gan ei bod yn eneth mor landeg. Pe buasai wedi cael byw fis yn hwv buasai yn dair ar hugain oed. Yr oedd wedi ei dyweddio i wr ieuanc o deulu parchus ac anrhydeddus, yr hwn sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu ei wlad yn rhywle yn Ffrainc. Bydd yn brofedigaeth drom iddo yntau pan bydd i'r newydd pruddaidd ei gyraedd. Hyderwn y caiff nerth oddi uchod i ddal y brofedigaeth yn ei unigedd mewn gwlad estronol.
Yr ydym yn cydymdeimlo o waelod calon gyda'r teulu anwyl hwn, ac yn gobeithio y cant nerth i ddal y brofedigaeth chwerw ac annysgwyliadwy. Yr ydym yn gobeithio na bydd i'r amgylchiad, yn nghyd a'r daith flinedig effeithio ar iechyd Mrs. Pritchard. Bu raid iddi droi yn ol cyn cael dim gorphwys. Yr ydym yn deall ddarfod i Mrs. G. G. Thomas o'r ddinas hon fvnd yn ol gyda Mrs. Pritchard yn gwmni iddi. Iechyd i'w chalon.
T.W.R.
Y Drych ~ Hydref 17eg 1918.
ANNIE PRITCHARD. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Racine. Wisconsin.Gyda braw y derbyniwyd y newydd pruddaidd am farwolaeth y foneddiges ieuanc, Miss Annie Prichard. yr hyn a gvmerodd le yn Minneapolis foreu Mawrth, Hydref 8fed.
Yr oedd yn y capel y Sul ac yn canu yn y cor, a foreu Llun aeth at ei gwaith fel arfer, ond yn mhen yr awr wedi iddi ddechreu gweithio tarawyd hi yn ddifrifol wael gyda phoen mawr yn ei phen. Awd a hi ar unwaith i'r ysbyty, a gwnaed pob ymdrech i'w hadfer, ond i lawr yr aeth yn gyflym, a foreu tranoeth ehedodd ei hysbryd ieuanc at Dduw yr hwn a'i rhoes.
Ergyd drom i'w thad a'i mam a'i chwaer a'i brawd ydoedd ei hymadawiad.
Ganwyd Annie yn Llanrug. Arfon, Gogledd Cymru, Rhagfyr 1af, 1895, yn ferch i Mr. a Mrs. Owen E. Pritchard. Cafodd ei magu ar aelwyd grefyddol a chyda'r gofal a'r tynerwch mwyaf. a thyfodd i fyny yn gymeriad addfwyn a phrydferth. Yr oedd ei chariad a'i pharch tuag at ei rhieni yn fawr.
Deuddeg mlynedd yn ol daeth y teulu drosodd i'r wlad hon. Buont yn byw am gyfnod yn Granville, New York, a diau fod llawer yn yr ardal hono goffa da am y teulu, ac y bydd yn drist ganddynt feddwl fod gyrfa Annie wedi dod i derfyn mor ieuanc. Tua saith mlynedd yn ol, daethant i Racine, ac yma y tyfodd yn ferch ieuanc brydferth. Yr oedd iddi le cynes yn serch y bobl ieuainc a gallai wneyd cyfeillion o bawb ddeuai i gysylltiad a hi, ac yr oedd ei hymddygiad at y cyfryw yn dyner a boneddigaidd. Chwith oedd genym weled y teulu yn gadael y ddinas tua tair blynedd yn ol am Minneapolis; yr oeddynt mor ffyddlon a gweithgar gyda gwahanol gyfarfodydd yr eglwys, fel yr oedd eu colli yn gwneyd bwlch. Nid hir y bu eu harosiad, daethant yn ol drachefn, ond fe hoffodd Annie Minneapolis, a gwnaeth lu o gyfeillion yn mysg ei chydweithwyr ac yn yr eglwys Gymreig o'r hon oedd yn aelod.
Yr oedd iddi le cynes yn mysg yr oll, fel yr oedd yn anhawdd iddi dori y cysylltiadau. Yr oedd yn meddwl yn aml y buasai yn dda ganddi dalu ymweliad a Racine, a hiraethai yn aml am ei rhieni, a'r wythnos ddiweddaf y bu fyw yr oedd yn parotoi pethau at y Nadolig fel y gallai ddod ar ymweliad a hwy. Ond rhyfedd mor ddirybudd y daeth yr alwad iddi ffarwelio a'r byd hwn. Yr oedd wedi crybwyll wrth rai o'i chyfeillion yr wythnos gynt y buasai yn hoffi marw yn dawel, ac felly y bu. Wyla llu mawr yn Minneapolis a Racine ar ei hol, yr oedd yn gymeriad mor anwyl, ac o ysbryd tyner a charedig. Blodeuyn prydferth ydoedd a dorwyd i lawr yn ieuenctyd bywyd cyn i'r un brycheuyn ei hagru, a chvsur mawr i'w rhieni galarus ydyw eu bod wedi cael yr anrhydedd o fagu cymeriad mor hawddgar, un ag y mae i'w choffadwriaeth le cynes yn nghylch eang ei chyfeillion.
Cynaliwyd gwasanaeth angladdol iddi yn Minneapolis cyn cychwyn gyda'r corff am Racine, a chymerwvd rhan gan ei gweinidog, y Parch. S. E. Prydderch, a'r Parch. Joshua T. Evans. Yr oedd yn hynod ddwys. a phawb yn teimlo eu bod wedi colli un oedd anwyl ganddynt. Am ddau o'r gloch ddydd Iau, Hydref 10fed cynaliwyd gwasanaeth angladdol iddi yn nghartref ei rhieni, 83 Grand Avenue, prvd v gweinyddwyd yn dyner ac effeithiol gan y Parch. Joseph Roberts, D. D.
Rhoddwvd ei gweddillion i orwedd yn Mound Cemetery. Yr Arglwydd fyddo yn nodded ac yn gysur i'w rhieni galarus ac i'w chwaer a'i brawd, ac a roddo iddynt nerth i rodio yn agos ato, fel ag y gallont oll gael cydgyfarfod eto yn y man yn deulu dedwydd yn y wlad lle na bydd raid iddynt byth ymadael mwy.
Gan R. D. Evans.