JOHN J. PRITCHARD. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.
Mawrth 4ydd, bu farw John J. Pritchard yn nghartref Mrs. Catherine P. Williams ar South Street, lle y bu yn nychu am rai misoedd; 'roedd ei briod wedi ei ragflaenu er's rhai blynyddau.Ganwyd ef 72 o flynyddau yn ol yn Llanberis, Gogledd Cymru, a daeth i'r wlad hon yn ddyn ieuanc, a bu yn trigianu am rai blynyddau yn Upper Lehigh a Danielsville.
Mae yn debygol iddo gael ei fed- yddio gan y diweddar Barch. John Jones, "Rhen Gloddiwr' yn Sardis. Llanberis, a bu yn aelod a blaenor yn eglwys y Beiyddwyr yn Williamstown, ger Slatington yn amser y diweddar Barch. Allen J. Morton; wedyn wedi symudiad yr achos o Williamstown i dref Slatington dan weinidogaeth y diweddar Barch. Charles Jones, yr hwn a symudodd yn mhen blwyddvn i Nanticoke i weinidogaethu, ac a ddylynwyd gan y Parch. Henry Evans, Penrhyncoch. D. C., yr hwn fu farw yn ddiweddar; ni fu efe ond oddeutu dwy flynedd cyn ei symudaid i South Wilkes-Barre, o'r lle yr aeth i Penrhyncoch. Dylynwyd ef gan y Parch. D. E. Richards (Ieuan Fardd) am dros ddeng mlynedd, ac wedyn y Parch. Gomer Evans, yr hwn a ddaeth drosodd o'r Rhyl. G. C.. ac a symudodd i Wilkes-Barre i weinidogaethu, ac yn olaf y Parch. Moses Young, yr hwn sydd wedi croesi drosodd i Ffrainc yn dliweddar gyda'r Y. M. C. A.
Claddwyd yr hyn oedd farwol o'r cyfail1 John Pritchard yn Union Cemetery. Slatington. y Gwener canlvnol. Gwasanaethwyd gan ei hen weinidog a'i gyfaill, y Parch. D. E. Richards (Ieuan Fardd), Scranton, Pennsylvania. 'Roedd yr ymadawedig yn ewythr frawd ei dad i Robert Pritchard, Walnutport; William Pritchard, Wind Gap; Griffth Pritchard. tinstaff. Wilkes-Barre. a John Pritchard, Pittsburgh.
Nid oedd yr ymadawedig yn caru clywed dim o'r iaith Saesneg yn cael ei siarad na'i phregethu, dim ond yr hen iaith, a'r blynvddau diweddaf wedi troi y moddion i'r iaith Saesneg yn eglwys y Bedyddwyr, byddai yn mynvchu yr oedfaon Cymrraeg yn eglwys Salem. M. C. dan weinidogaeth pregethwr hyawdl a llithrig, y Parch. John Williams, yn awr yn Denver, Colorado a'r tro arall i eglwys Bethel A.