OWEN PRYTHERCH (CARNEDDWR). PASADENA, CALIFORNIA.

Un o ddarllenwyr a gohebwyr ffyddlawn y "Drych." ag y torodd ei delyn ddaearol, sef Owen Prytherch (Carneddwr), wedi nychu o hono am rai misoedd. Bu farw ddydd Mawrth, Awst y 6ed, yr hyn a barodd fraw i'r oll o'i gyfeillion yn Ngwlad yr Angelion. Er nad oedd ond newydd a ddysgwylid er's dyddiau, oblegid dadfeilio yn araf yr oedd ei babell ddaearol gydag arwyddion fod ein cyfaill ar fyned i dir "glyn cysgod angeu," ond gofalodd tra yma ei fod wedi dod i wir adnabyddiaeth gyflawn o'r Gwr a wasanaethodd o'i febyd hyd derfyn y daith.

Ganwyd yr ymadawedig yn Carneddi, Bethesda, Arfon, Mehefin 21ain 1864. Dylynodd ei grefft fel chwarelwr yn yr ardal hono hyd Mawrth, 1887, pryd yr ymfudodd i'r wlad hon i amgylchoedd West Pawlet a Vermont, ac yna ar hyd a lled y wlad fawr fel mwnwr.

Yn Medi 1901, ymbriododd a Miss Ellen Hughes yn Fresno, California; Cymraes enedigol o Amlwch, Mon, yr hon a brofodd yn ymgeledd gymwys iddo ar hyd y blynyddoedd hapus gyda'u gilydd hyd nes i angeu eu gwahanu. Buont yn Bisbee. Arizona, am ysbaid, lle y gweithiodd ein diweddar gyfaill yn y mwnau hyd ychydig flynyddau yn ol, pryd y daethant i Pasadena, California. Yn y lle hwn y bu iddynt adeiladu cartref hardd er diweddu eu hoes ynddo mewn tawelwch a mwynhad, ond fel arall y bu llaw fawr Rhagluniaeth yn y cysylltiad hwn, a gedy gymylau duon uwch ben y cartref.

Yr ydoedd ein diweddar frawd yn esiampl deg o wir Gristion yn mhob cylch o fywyd y bu yn troi ynddo; yn ddigon o Gristion i ni wybod pwy ochr y safai, ni fu ofn dyn arno erioed. Pan y digiai wrthym, digiai yn ein gwyneb, ond ni fu iddo un amser tynwesu yr un llid at neb oblegid cyn machludo o'r haul yr un dydd byddai wedi maddeu yr oll. Yr ydoedd yn gymeriad unplyg a didwyll iawn a hollol ddi-ddichell, pa achosion bynag ddeuai i fyny yn yr eglwys, nid oedd ganddo ond un cwestiwn i'w ofyn i benderfynu ei ymddygiad ar bob amgylchiad, sef beth oedd iawn i'w wneuthur, os na fyddai yn cydweled a'i frodyr dywedai ei farn yn onest beth bynag a wnai; a gwnai hyny nid gydag un hunan-elw, ond gydag amcanion goruchel iawn er gwella y gymdeithas y bu yn troi ynddi.

Diau y buasai yn llawer gwell i un nodedig o un-plyg fel yr ymadawedig aros heb ddod i'r byd hyd nes byddai y ddaear yn lluosocach o rai tra tebyg iddo, yn sicr buasai ei gysur yn fwy. Yr oedd ynddo ran helaeth o natur yr hen Bedr gynt, byddai yn dra llym wrth y rhai a geid yn euog o wawdio. ac iselhau crefydd Iesu Grist; gwelsom ef rai prydiau wedi ei gynyrfu, ond bob amser yn foneddwr ac fel Cristion. Mor fuan bron ag y byddai y blaidd wedi ei ollwng o'i garchar, byddai yn y fan wedi troi i fod yn oen llariaidd, a gallwn ddweyd na fu calon onestach a phurach yn curo mewn cnawd erioed.

Yr ydoedd yn llenor galluog a dyddorol iawn, a phob adeg ei weithiau yn ddestlus, a chydolyga Golygyddion y "Drych" a ni yn ddiameu yn hyn, parthed ei ysgrifau, ei law ysgrif yn dlos a chlasurol uwch law y cyffredin, yn lan a threfnus cyn yr elent i'r wasg. Yr oedd yn ddarllenwr a myfyriwr mawr, gallai adrodd cryn lawer o farddoniaeth a hyny o'r cof, gallasai fod wedi esgyn yn uchel yn gyhoeddus oni bai diffyg ei barabliad, o herwydd anhwyldeb y taflod, ac nid oedd neb a ofidiai yn fwy yn hyny nag ef ei hunan, oblegid torai allan i wylo yn fynych iawn.

Yr oedd yn hoff iawn o farddoniaeth yn neillduol emynau; edmygydd mawr o Bantycelyn ydoedd, profiadau y per-ganiedydd oedd ei eiddo yntau tra yn gystuddiol, a mynych y clywid ef gan ei gyfeillion yn perori ar gan y Gwr a'i carodd mor fawr, hyd yn nod yn ei oriau olaf. Darllenodd lawer o lenyddiaeth, a'r rhai hyny o radd uchel, ac edmygwr mawr o Cynddylan ydoedd, a bu yr hyn a ddarllenodd yn oleuni iddo yn nhywyllwch "Glyn Cysgod Angeu" a'i droi yn oleu dydd iddo.

Fel pob gwir Gristion bu yn hynod o ffyddlawn i'r achos Cymreig yn ninas yr Angelion er pellder y ffordd. Cafodd yr achos le cynes yn ei galon; er yn hyddysg yn yr iaith o'i amgylch, fel Cymro y gallodd addoli ei Greawdwr oreu, ac yr oedd ganddo feddwl uchel o'i weinidog, a bu yn gefn mawr iddo er dal ei freichiau i fyny i bregethu yr ymadrodd am y Groes, a thystia y Gwr hwn fod ei weddi fawr ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ar ran Cymry de California ac eglwys Gymreig Los Angeles yn un a gofir ganddo yn hir.

Ddydd Gwener, y 9fed, am ddau o'r gloch, cafwyd y wasanaeth angladdol yn nghapel Cymreig y ddinas. Wedi i'r gynulleidfa ganu rhai o'i hoff emynau, siaradodd y Parch. G. Pritchard yn Saesneg, gan wneyd sylwadau hynod o ddwys ar fywyd Carneddwr, gan yr adwaenai ef dros 25ain o flynyddau fel cyfaill cywir. Yna yn ei ddylyn yn yr iaith a garai yr ymadawedig, gan ei hoff weinidog, y Parch. R. H. Jones, D. D.. yntau wnaeth grybwylliad ar rai o flodau ei gymeriad, gan nodi ei argyhoeddiadau dyfnion, ei gymeriad cadarn, cywirdeb ac unplygrwydd, dim gweniaith, cyfaill ymddiriedol, a'i letygarweh a'i garedigrwydd i Gymry ieuainc digartref.

Chwith i ni dy golli gyfaill duwiol; "Colled y ddaear, ond enill y nefoedd. Bu dy ffydd yn Nuw yn ddiysgog, a'th ymostyngiad i'w ewyllys yn berffaith. Ehedodd dy ysbryd mawr a phur ato, gan adael dy briod, tad oedranus yn Nghymru, a brawd a pherthynasau, a llu cyfeillion dros y wlad mewn dwfn alar ar dy ol. Heddwch i dy lwch hyd y boreu rhyfedd pan y bydd -

"Dorau beddau y byd"
Ar un gair yn agoryd.

Gwedi gwasanaeth byr ar lan y bedd gan frodyr yr Odyddion, yr hon gymdeithas yr oedd yn aelod o honi, canodd y Cymry "Bydd myrdd o ryfeddodau." Yna rhowd y gweddillion i orwedd yn erw Duw, llecyn prydferth wrth odreu y Mynydd Lowe, o'r enw Mountain View Cemtery. Pasadena. Yr archgludwyr ydoedd Mri. David H. Johns, Henry Owens, Edward Davies, Wm. E. Williams. Edward Roberts a David Jones. Derbynied ei briod hawddgar ein cydymdeimlad a'r perthynasau oll draw yn Ngwalia Wen, yn eu dwfn alaeth. Dymunir ar i bapyrau Gogledd Cymru gyfnodi yr uchod.
Gan Dewi.

Y Drych ~ Medi 5ed 1918.


OWEN PRYTHERCH (CARNEDDWR). PASADENA, CALIFORNIA.

Hydref 4ydd.
Wrth ddarllen y "Drych" am Medi 5ed, tarawyd fi a syndod wrth weled hanes marwolaeth fy hen gyfaill, Owen Prydderch (Carneddwr), Pasadena, California; un o fechgyn anwylaf hen ardal y Carneddi, Bethesda, Arfon, ac un o ohebwyr y "Drych." Nid wyf yn meddwl fod Dewi wedi dweyd gair yn ormod am gymeriad fy hen gyfaill bore oes. Cafodd efe a minau ein dwyn i fyny yn blant yn yr un eglwys, sef y Carneddi, ac yn yr un dosbarth yn yr Ysgol Sul am amser; hefyd yn yr ysgol ddyddiol o dan athrawiaeth y diweddar Garmonydd. Gallaf ddweyd na fu glanach cymeriad nag Owen Prydderch ac yr oedd hyny i'w gyfrif i'w ddiweddar fam, yr hon oedd a'i gofal yn fawr drosto, a hefyd i'w anwyl dad, yr hwn sydd yn un o ffyddloniaid, ac un o hen dadau yr eglwys y cafodd y brawd a minau ein dwyn i fyny ynddi.

Yr oedd yn ergyd drom i'w anwyl dad, yr hwn sydd yn bur wael, i glywed am farwolaeth Owen, a hefyd ei frawd William a'r teulu ag sydd yn Nghymru; hefyd ei anwyl wraig ag sydd wedi ei gadael yn unig i alaru ei cholled ar ol un ag yr oedd yn hoff o hono; a bydd yn chwith gan lawer o hen gyfeillion boreu oes yr ymadawedig i feddwl na chawn byth gyfarfod a'r Cymro twymgalon a'r Cristion gonest tu yma i'r llen.

Ond rhaid cofio, fel ag y dywed Dewi, mai colled y ddaear, ond enill y nefoedd ydyw colli y cyfaill duwiol yma o'n mysg. Heddwch i'w lwch hyd ganiad yr udgorn. Diolch i Dewi am ei ysgrif odidog am fy anwyl hen gyfaill.
Gan R. J. Hughes.

Y Drych ~ Hydref 24ain 1918.