ELEANOR EVANS RICHARDS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn ei chartref 208 Mary Street, bu farw yr hen chwaer Eleanor Evans, gweddw Edmund Richards. Cymerodd yr amgylchiad le am 1:30 foreu ddydd Mawrth, ar ol ychydig fisoedd o afiechyd. Yr oedd Mrs. Richards yn un o aelodau hynaf eglwys Bethesda. Ganwyd hi yn Ninas Mawddwy. Gogledd Cymru, Mai 8fed, 1833; enwau ei rhieni oeddynt, John ac Ann Evans.Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1852, gan ymsefydlu yn Utica, ac yn fuan, ymbriododd ag Edmund Richards, yr hwn oedd yn adnabyddus fel adeiladydd yn y ddinas. Yr oedd wedi bod yn aelod o eglwys Bethesda am dros 60 mlynedd, ac yr oedd hi yn un o aelodau hynaf yr eglwys, a thra yn alluog i fynychu y capel, bu yn hynod o ffyddlon i wahanol gyfarfodydd yr eglwys.
Gedy mewn galar ar ei hol un ferch, Mary E., yr hon oedd gartref gyda hi; un brawd, Evan Evans, o Richfield, ac amryw berthynasau eraill.
Y Drych ~ Mehefin 20fed, 1918.
ELEANOR EVANS RICHARDS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
She was the daughter of John and Ann Evans.She is survived by one daughter, Mary A. Richards of Utica, one brother, Evan Evans of Redfield, Oswego County and several nieces and nephews.