ROBERT RICHARDS. WILKES-BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Ionawr 10fed, 1919.Un o luaws mawr yn ein dinas a fu farw o'r pneumonia oedd Robert Richards, 489 E. Northampton St. Bu yn wael am wyth neu naw diwrnod, ac yn ystod yr amser yna ymladdodd yn dawel, hyderus dirwgnach, ond colli y frwydr a wnaeth. Ar yr un pryd, yr oedd ei briod yn beryglus wael, ac ofnid mai angeu a gawsai y goreu arni hithau hefyd. Trwy ofal tyner, caredig, meddyg ac eraill, tynodd drwy yr afiechyd. Gadawyd hi i ofalu am ei dwy eneth fach. Gwelwn drugaredd yn odfeuon yr haint a goleuni mewn tywyllwch.
Ganwyd Robert Richards yn Trawsfynydd, Gogledd Cymru, Mawrth 28ain, 1884. Pan ydoedd o gylch dwy flwydd oed, symudodd ei rieni i'r wlad hon gan wneyd eu cartref yn Plains, Pennsylvania.
Cafodd y tad ei ladd yn y gwaith glo pan nad ydocdd ond 31 mlwydd oed. Gadawodd briod a chwech o blant ieuainc ar ei ol. Croes drom ydoedd hono mewn gwlad newydd, ond cludodd y weddw hi yn wrol a llwyddianus. Prin iawn fu addysg foreuol Robert. Tymor byr a gafodd yn yr ysgol. Gorfu iddo fyned i'r pwll glo pan yn naw oed. Cymerodd ran o'r cyfrifoldeb o ddwyn y plant i fyny pan nad oedd ond plentyn ei hun. Pwy a wyr holl hanes plant amdddifaid, eu hymdrechion i gadw'r cwpwrdd yn weddol lawn, a'r cefn yn weddol glyd, pan oedd ffon y bara wedi ei ddryllio, a'r cefn rhyngdynt a'r dymestl wedi ei symud. Pwy sydd deilyngach o air o goffa na plant yr ymdrech mawr? Un o honynt oedd Robert Richards.
Yn y flwyddyn 1908, ar y 4ydd o Orphenaf, cawn iddo ymuno mewn priodas a Miss Mary Ann Jones, Kingston, y Parch. R. H. Jones yn gweinyddu. Yn ei oriau hamddenol, myfyriodd a darllenodd lawer. Yr oedd ei fryd ar fod yn swyddog yn y gwaith glo. Fis Gorphenaf, 1916, eisteddodd arholiad er ei gymwyso i fod yn "fire boss," ac aeth drwyddi yn llwyddianus. Cyn yr arholiad, yr oedd efe a'i briod am wythnosau, ac yn fynych hyd oriau man y boreu, yn gweithio ar broblems, ond mor fuan y galwyd ef oddiwrth y gwaith a garai i'r wlad a hoffai ac y canodd yn felus am dani wrth agosau ati. Ber fu ei oes, ond llawn o waith.
Colled fawr a gafodd ei deulu yn ei fynediad adref. Doeth, er hyny, ydyw ymdawelu a dweyd fel un arall: "Iesu wyr beth sy'n oreu." Yr oedd yn aelod yn Eglwys Gyntaf yr Annibynwyr yn y ddinas hon, ac yn fucheidol ei rodiad, ac iddo air da gan bawb. Meddyliai cwmni y Lehigh and Wilkes-Barre, i'r hwn y gweithiai, yn uchel o hono, a phe cawsai fyw, diau yr elai yn uwch i fyny yn ngwasanaeth y cwmni.
Gadawodd i alaru ar ei ol, ei briod, dwy eneth. Kathryn a Margaret, tair chwaer, Mrs. Robert Walters, Mrs. Gordon Pugh a Mrs. Idris Price, a dau frawd, William a John Richards.
Claddwyd ef y dydd cyntaf o Dachwedd. 1918, yn mynwent brydfprth Forty Fort, y Parch. J. Rhiwen Williams, Kingston, a'r ysgrifenydd yn gwasanaethu. Bydded i'r Barnwr gofalus gysuro y weddw, a Thad yr amddifaid amddiffyn y rhai bach. Dyddaner yr holl deulu. Heddwch i Robert Richards yn llwch y llawr hyd foreu mawr y codi.
J. M. Pritchard.