CATHERINE ROBERTS ROBERTS. SLATINGTON, LEHIGH, PENNSYLVANIA.

Dylasai hyn o ysgrif fod wedi ymddangos dair wythnos yn ol; ac nid oes neb i'w feio ond yr ysgrifenydd. Llinellau cof ydynt am y ddiweddar Mrs. John G. Roberts, 424 Washington Street, o'r ardal hon. Bu yn wael am rai misoedd dan afiechyd poenus y cancr, ond yn Mai lOfed hunodd yn dawel yn yr Iesu.

Ac aeth i wlad o gyraedd poen
I feddu ar ei mwyniant;
Ac yno mae yn un o'r cor
Yn canu mewn gogoniant.

Dynes dawel ddirwgnach ydoedd, a bu felly hyd oriau olaf ei bywyd. Yn mhob drycin o'i bywyd ceisiai edrych ar yr ochr oleu. Cofiai am rywun arall o hyd ag oedd wedi bod mewn tywydd garw o'i blaen hi, yna byddai yn cysuro ei hun y deuai hithau i'r lan fel y rhai hyny.

Daeth Mrs. Roberts a'i dau fab i'r wlad hon oddeutu 36 mlynedd yn ol. Yr oedd ei phriod yma o'u blaen. Buont yn byw am beth amser yn Ashley, Pennsylvaina, ond yma y treuliodd eu bywyd hwyaf. Yr oeddynt er's blynyddau wedi gwneyd cartref hapus a chysurus, ond erbyn hyn dyma law oer angeu wedi ei ddryllio trwy gymeryd i ffwrdd fam a phriod dyner a charedig; ie, un ag oedd well ganddi i waed ei chalon fferu nag i un niwed ddygwydd i'w phlant a'i phriod.

Bu yn aelod ffyddlon yn ol ei gallu yn eglwys Bethel (A.) trwy y blynyddau y bu yma. Ychydig fu mor ffyddlon a hi yn yr Ysgol Sul yma; gwnaeth ei rhan yn helaeth yn yr eglwys hon; ac y mae ei lle yn wag iawn erbyn hyn. Oes mae colled ar ei hol ac yn arbenig i'r plant a'i phriod. Ganwyd Mrs. Roberts yn Plas Capel Garmon yn y flwyddyn 1851; enw ei thad ydoedd Mathew Roberts. Nid wyf yn awr yn sicr o enw ei mam.

Ddydd Mawrth dylynol, daeth torf fawr i dalu y gymwynas olaf iddi, y Parch. Robert Williams, ei gweinidog, yn gwasanaethu. Yr archgludwyr oeddynt John R. Williams, Wilson Rinker, Richard Roberts, a William Roberts. Rhoddwyd ei gweddillion i orwedd yn mynwent Fairview.

Nodded y nef a fo dros ei phriod a'i phlant.
Ioan Euron.

Y Drych ~ Mehefin 6ed 1918.


CATHERINE ROBERTS ROBERTS. SLATINGTON, LEHIGH, PENNSYLVANIA.

Catherine, wife of John Roberts, died at ten o'clock yesterday morning at her home, No. 424 Washington street, Slatington, aged sixty-five years and three months.

She was a born Roberts and a native of Wales, but came to this country more than forty years ago. She is the last of her family. Two sons, John G., of Mauch Chunk, and Matthew, of Slatington survive.

Funeral services will be held at two o'clock Tuesday afternoon from the house, with services in the Welsh Congregational church, Rev. Williams officiating. Internment will be made in Fairview cemetery Slatington.

Find a Grave.