MR. DAVID ROBERTS. PORT LEYDEN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Journal and Republican, Lowville, NY Jun 27, 1918 DAVID ROBERTS PASSED AWAY YESTERDAY MORNING AT THE AGE OF 89 YEARS"AN HONORED LIFE, A PEACEFUL END, AND HEAVEN TO CROWN IT ALL." At his home on Quarry Street, Wednesday morning occurred the death of David Roberts at the age of 89 years. Mr Roberts was born near Bala, North Wales, December 23rd, 1829, and when 13 years of age came to this country with his parents, Richard and Gwen Roberts, the voyage being made in a sailing vessel, which was six weeks in crossing.
After living for one year on Deerfield Hill the family came to reside on the farm which the father purchased, one mile south of this village, until recently owned by Peter Snyder.
There were ten children in the family, of whom Mr Roberts was the oldest, and for the past seven years he was the only survivor.
December 5th, 1855, at South Trenton the marriage of David Roberts and Jane Roberts took place, the ceremony being performed by Rev Thomas Williams. The two families though bearing the same name, were not related, but were intimate friends and came to America in the same sailing vessel. There being no railroad north of Trenton, the bride and groom drove from that village to Port Leyden, going at once to the farm on the East road, which Mr Roberts had purchased two years previous, and where for nearly fifty years the family continue to reside.
Eight children were born to them, four of whom are living: Rev David L Roberts, of Mexico, New York; Lemuel Roberts, of New York City, and the Misses Hannah and Celia Roberts of this place; also four grandchildren, Marion, Luella, Ruth and Winifred Roberts.
In the fall of 1899 Mr Roberts rented his farm, which a few years later he sold, and came to this village to reside. Mrs Roberts died two years ago last April.
Mr Roberts was a successful farmer, an excellent citizen, and a fine Christian character. He one of the charter members of the Welsh Presbyterian church at Collinsville, and throughout its existence was one of its most faithful and generous supporters, having served many years as an elder and frequently represented his church at meeting of the Presbytery Synod and General Assembly of that denomination. Of his we feel that it can truly be said: "An honored life, A peaceful, And Heaven to crown it all."
Funeral services will be held Friday afternoon from the Congregational church.
Journal and Republican, Lowville, New York June 27th, 1918.
MR. DAVID ROBERTS. PORT LEYDEN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Foreu y 26ain o Fehefin diweddaf, bu farw y gwr caredig a'r Cristion cywir sydd a'i enw uchod, ac yn ei ymadawiad, collwyd un o hen sefydlwyr mwyaf parchus swydd Lewis. Cafodd Mr. Roberts fyw i oedran teg, sef 89 o flynyddoedd, a llanwodd hwy i gyd a gweithredoedd da, pur, ac anrhydeddus, yr hyn sydd yn gwneyd ei goffadwriaeth yn berarogl hyfryd yn mysg ei gyfeillion a'i gydnabod yn yr ardaloedd hyn.Enw ei gartref genedigol ydoedd y Ceunant Uchaf (y fan lle yr arferai Abram y Ceunant fyw) rhyw dair milldir i'r gorllewin o dref y Bala, ac oddi yno yr ymfudodd efe gyda ei rieni i'r America pan yn 14 mlwydd oed. Enwau ei rieni oeddynt, Richard a Gwen Roberts, ac efe oedd yr hynaf o ddeg o blant, pump o fechgyn a phump merch. Fe ddaeth bwlch i'r teulu yn lled fuan ar ol iddynt sefydlu yn y wlad newydd drwy i'r brawd ieuengaf foddi yn yr afon ag sydd yn rhedeg drwy y fferm ag yr oeddynt yn byw arni yr adeg hon, ond am y lleill, cawsant fyw i weled oedran cyffredin, ond darfu i Mr. Roberts oroesi yr oll o honynt.
Yr oeddynt fel teulu yn enwog ac yn flaenllaw gyda phethau crefyddol. Er eu bod oll wedi cael rhan helaeth o bethau y byd hwn, pethau crefydd oedd yn cael y lle blaenaf ganddynt. Fe wnaed Mr. Roberts yn flaenor yn eglwys Gymreig Collinsville yn 1873, ac fe barhaodd yn ffyddlon tra y parhaodd yr achos yno. Yr oedd yn ddyn caredig, ac yn anwyl iawn gan bawb o'i gydnabod yn Gymry ac Americaniaid. Yr oedd yn ddyn Duw yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd cymdeithas agos cydrhwng ei Dad Nefol ag yntau yn gwneyd hyd yn nod ei wynebpryd i ddysgleirio, ac nid oedd dim a wnai iddo deimlo mwy na gweled Dydd yr Arglwydd yn cael ei amharchu. Gwyn fyd na fuasai mwy yn cael eu llanw a'r un teimlad ag ef. Yn wir, yr oedd ei fywyd glan a dilychwin yn werth i wneyd yn debyg iddo; y mae efe, er iddo farw, yn llefaru eto.
Ganwyd iddo ef a'i briod wyth o blant, pedwar o honynt wedi ei ragflaenu i'r byd tu draw i'r Hen. a phedwar yn aros ar ol mewn galar ar ol tad ffyddlawn ac anwyl, sef Parch. David L. Roberts. Mexico; Lemuel Roberts, Brooklyn; Miss Hannah Roberts a Miss Celia Roberts, o Port Leyden. Bu farw ei briod, Mrs. Roberts. Ebrill 24ain, 1916.
Cymerodd y gwasanaeth angladdol le ddydd Gwener, Mehefin 28ain. am 3 o'r gloch y prydnawn, yn nghapel y Cynulleidfaolwyr Seisnig, yr hwn gapel a arferai ei fynychu yn ddiweddar. Gwasanaethwyd gan y Parch. R. T. Roberts, D. D., Rome. yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. L. Williams. Utica, a'r Parch. Reuben Kline, Port Leyden. Canwyd yn ystod y gwasanaeth gan Mr. a Mrs. Howard Miller a Mrs. J. H. Williams. Port Leyden, yn cael eu harwain gan W. R. Thomas, Utica, yr hwn hefyd a ganodd yn Gymraeg yr hen emynau ardderchog ag a hoffid yn fawr gan yr ymadawedig, sef "Cawn esgyrn o'r dyrys anialwch," ac "O fryniau Caersalem ceir gweled," ar y don "Crug-y-bar. Yr archgludwyr oeddynt John L. Smith, V. F. Peebles, Jason Edwards, David Hughes, Everett Williams a Howard Miller. Yr oedd llu mawr wedi dod yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo.
Gan Morris Jones, Utica.