ELLEN DAVIES ROBERTS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Fel yr hysbyswyd yn y "Drych" diweddaf, gorphenodd yr anwyl chwaer uchod yrfa'r anialwch foreu Mercher, Rhagfyr 4ydd, 1918. Er yn dysgwyl am y newydd pruddaidd, eto methem a pheidio a cholli deigryn o barch ac o hiraeth gan ei bod hi yn un o oreuon y ddaear. Cafodd gystudd maith a phoenus, ond dyoddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach. Ni frysiodd, canys yr oedd pob peth o'i heiddo wedi ei drefnu, a hunodd mewn heddwch perffaith, ac aeth adref i ogoniant tragwyddol i'r nefoedd yn mreichiau ei Gwaredwr, yr hwn y bu iddi ei garu a'i wasanaetbu trwy ei holl fywyd.

Yr unig beth oedd yn chwerw iddi hi yn wyneb ei hymddatodiad, ydoedd tori cysylltiad a'i hanwyl briod, perthynasau a chyfeillion anwyl oedd iddi, ac fel yr hoffai cyn myned pe byddai iddi gael gweled Idris (ei nai), yr hwn sydd yn gwasanaethu yn y fyddin yn Ffrainc.

Yr oedd yn gyfuniad o "Mair" a "Martha"; gofalodd am ei thy a'i heiddo ei hun, a hyny yn y modd mwyaf doeth a rhagorol. Nid oedd aelwyd ddedwyddach na chartref trefnusach nag un 303 Spring Street. Y mae gan lawer un fel fy hunan adgofion melus am y caredigrwydd a gawsom oddiar ei llaw pan y glaniasom yn y wlad yma, wedi gadael cartrefi a gofal tyner serchog rhieni yn Nghymru, ond bu i ni gael cartref oddicartref trwy garedigrwydd ein hanwyl "Nell Roberts," fel y byddem yn ei galw. Nid boarders oeddym, ond rhan o'r teulu; cadwodd lawer i un o honom rhag myned i'r wlad bell drwy ei charedigrwydd a'i gofal o honom.

Bu ei sirioldeb, ei geiriau mwyn, a'i charedigrwydd yn atalfa rhag dinystr llu o fechgyn yn ddiofal, dibrofiad a diamddiffyn a ddaethant i'r wlad hon yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Byddai gweinidogion yr Efengyl hefyd yn hoffi aros yn y "Bethania" yma pan yn gwasanaethu yn Bethesda, a manau eraill; caent yno y derbyniad mwyaf cynes a charedig. Felly yn ddiau y cadd hithau y fraint o dderbyn ambell angel yn ddiarwybod. Bu Mrs. Roberts ar hyd ei hoes yn byw i eraill; os byddai afiechyd neu brofedigaetth ar rai ag oedi hi yn gwybod amdanynt, byddai yno yn ei chymwynasgarwch; ac yr oedd yn hynod o dda: wrth y tlawd a'r angenus. Y cwyn ni wyddai a chwiliai. Yr oedd yn meddu ar galon hawdigar a da.

Yr oedd hefyd yn grefyddol o'i mebyd, a bu yn garedig i grefydd ac i bob achos da. Llanwai y gwahanol gylchoedd y troai ynddynt a dylanwad er daioni. Cafodd fagwriaeth grefyddol dda, a manteisiodd ar hyny fel y tyfodd yn gymeriad cryf.

Ganwyd hi yn Rhydymain, yn agos i Dolgellau, Gogledd Cymru. Ei thad ydoedd y Parch John Davies, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. ac enw ei mam oedd Catherine Davies. gwraig dduwiol a charedig iawn. Ymfudodd y teulu i America yn 1855, a bu iddynt ymsefydlu yn Remsen a'r tad yn cymeryd gofal eglwys Penygraig. Ar ol hyny bu gofal dwy eglwys ganddo yn Bridgewater. Yn mhen pedair blynedd bu farw. Yna dychwelodd y fam gyda phedwar o blant i Gymru, ac arosodd yno hyd 1881 pryd y dychwelodd i'r wlad hon, y plant erbyn hyn wedi tyfu i fyny, a sefydlasant yn ninas Utica. Bu y fam farw yn 1887, a rhoddwyd ei gweddillion i orphwys wrth ochr ei phriod yn hen fynwent North Bridgewater.

Yn Ionawr 11eg, 1888, ymbriododd yr ymadawedig a John G. Roberts, y diweddar Barch.R. Gwesyn Jones. D. D.. yn gweinyddu. ac yn Ebrill o'r un fiwyddyn aethant i fyw i 303 Spring Street, ac yno y maent wedi preswylio hyd yn awr, ac y mae eu cartref wedi bod yr holl amser yn un o ddedwyddwch a hapusrwydd neillduol. Yr oedd yn aelod gweithgar a ffyddlon yn eglwys Bethesda, ac yn yr holl gymdeithasau a berthynai i'r eglwys; a bu yn llywyddes Cymdeithas Gynorthwyol y Chwiorydd, ac yn swyddog yn y Gymdeithas Genadol, a chynrychiolai yr eglwysi am flynyddau ar Fwrdd Trefnwyr y Woman's Christian Association. Yr oedd yn aelod hefyd o'r Eastern Star, a bu yn drysoryddes i'r gyfrinfa am rai blynyddau.

Bydd yn golled fawr i eglwys Bethesda ar ol ein chwaer; yn wir, bydd yn golled i'r ddinas yn gyffredinol am gymeriad mor ardderchog ag sydd wedi myned oddiwrth ei gwaith at ei gwobr. Heblaw ei hanwyl briod, y mae yn aros i alaru ar ei hol dri o frodyr: William yn Nghymru. David J. a Griffith W. Davies o'r ddinas hon; dau nai, Edward L. Davies ac Idris Davies yn Ffrainc. Y mae ein cydymdeimlad yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth.

Cafodd angladd anrhydeddus ac fel y dywedai un wrthym. "dim gormod, llawn deilyngai y cwbI oll." Annghyhoedd ydoedd yn y ty am ddau o'r gloch ddydd Sadwrn, pryd y gwasanaethai y Parchn. J. Vincent Jones a Richard Hughes, Holland Patent. Yn nghapel Bethesda am haner awr wedi dau cafwyd gwasanaeth cyhoeddus; y capel yn orlawn o edmygwyr a chyfeillion ein hanwyl chwaer, yr hyn oedd yn dangos ei bod yn fawr ei pharch yn y ddinas. Gweinyddwyd gan y Parchn. J. Vincent Jones, Richard Hughes, Abram Jones (Plainfield), John Davies (Moriah) a Richard Oliver (Coke Memorial). Dadganwyd darnau priodol yn hynod o effeithiol gan bedwarawd, sef Edward Lloyd, John G. Jones, Herbert Jones, a Thomas G. Jones; Mrs. Thomas G. Jones, yn gwasanaethu wrth yr organ.

Yr archgludwyr oeddynt, John Davies, M. W. Fairbanks, William R. Hughes, Ross Langdon, Edward E. Williams a John O. Thomas. Yr oedd dros gant o ddarnau o flodau wedi eu hanfon o barch iddi oddiwrth eglwys Bethesda, y cymdeithasau perthynol iddi, Bwrdd y Supervisors o'r hwn y mae Mr. Roberts yn aelod o hono: y Cymreigvddion, Eastern Star, Brandegee Kincaid Co.. a chyfeillion i'r teulu.

Rhoddwyd y gweddillion i orphwys yn y Forest Hill Cemetery.

"Yno ni gawn ganu byth
Mewn gogoniant pur dilyth
I Grist yr Arglwydd Ior
O hyn fydd yn hyfryd, hvfryd. hyfryd
Cwrdd heb byth ymado mwy."

Gan John O. Thomas.

Y Drych ~ Rhagfyr 12fed, 1918.