GORONWY J. ROBERTS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Priod ieuanc arall a dorwyd i lawr gan y clefyd cas y pneumonia, yn ganlynol i ymosodiad o'r influenza ydyw Goronwy J. Roberts, 1119 Stark Street.Ni fu yn gyfyngedig i'w ystafell ond deg diwrnod, ac yr oedd y newydd am ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ddydd Iau diweddaf, yn creu syndod a gofid mawr i gylch eang o gyfeillion.
Ganwyd Goronwy Roberts yn Talysarn, Gogledd Cymru, 33 mlynedd yn ol; enwau ei rieni, John J. a Jane Roberts. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1902, gan sefydlu yn Poultney, ond yn fuan symudodd i'r cylchoedd hyn, a bu yn byw am dymor yn Ilion. Chwe blynedd yn ol ymfudodd mewn priodas ag Ella Owens, yr hon sydd yn aros i alaru ar ei ol.
Yr oedd yn gweithio yn awr yn y Savage Arms, ac yn aelod o'r Machinists Union, ac hefyd o gyfrinfa Schuyler, o'r Odd Fellows.
Heblaw ei briod y mae yn ei oroesi, ei rieni yn Nghymru ac un brawd, John. Claddwyj y gweddillion ddydd Sadwrn yn y New Forest Cemetery (angladd annghyhoedd).