GRIFFITH ROBERTS. SALT LAKE CITY, SALT LAKE COUNTY, UTAH.
Cyfarfyddodd Griffith Roberts a damwain Sul, yr lleg, a brofodd yn angeuol iddo foreu Iau. 'Oiler' ydoedd yn Magna, un o felinau yr Utah Copper Company, ac wrth ddylyn ei waith gydag un o'r 'bearings' tarawodd y wrench ef yn ei ben a'i ochr, a thori ei goluddion a'i ystutnog. Bu yn ymwybodol am ysbaid, ond nid oedd obaith iddo wella.Ganwyd ef yn Nolgellau, Meirionydd, Ebrill 27ain, 1851. Daeth i'r wlad hon tua 35ain mlynedd yn ol gan ymsefydlu yn Bloomington, Illinois; wedi hyny, Colorado Springs, Colorado, a daeth i Utah tua naw mlynedd yn ol. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ar y rheilffordd, a chredaf iddo fod yn orsaf feistr yn rhywle yn nwyrain Meirion.
Claddwyd ei weddillion yn Mount Olivet, Sadwrn, 17eg. Gweinyddwyd y gwasanaeth gan y Cambrian a'r Sons and Daughters of Wales Societies, a'r archgludwyr oeddynt Governor Thomas, W. B. Hughes, John James, John Morgans, Thomas W. Hughes ac O. J. Owen. Gweinyddwyd gan Dr. Williams, o'r M. E. Church, ffafr ddyn y Cymry, er mai Sais ydyw o Cornwall, ac ar ran y Cymdeithasau gan Governor Thomas, llywydd. Cafwyd gair i'r pwrpas gan y ddau; can gan Mrs. E. W. Stephens, ac Evan Arthur, sef y geiriau Cymreig, "Finau'n gruddfan ar y llawr," ar y don "Aberystwyth," ac ar lan y bedd y geiriau Cymreig, "Mae nghyfeillion adre'n myned," gan Mrs. Hannah Wilkes (Cymraes o Gwm Rhondda). Chwareuwyd ar yr offeryn gan Proff. Giles a Mrs. Dr. Stewart.
Yr oedd Roberts a thad Mrs. Stewart yn cydfynd a'u gilydd i Ysgol Bontnewydd. Gedy ar ei ol briod, a thri o blant o'r wraig gyntaf, i alaru ar ei ol, a llu o berthynasau yn Nghymru.
O. J. O.