HUMPHREY OWEN ROBERTS. MINNEAPOLIS, MONNESOTA.
Ychydig yn ol yr oeddym yn ysgrifenu i hysbysu am farwolaeth un o blant yr eglwys, John Evan Morris. Ond heddyw yr ydym yn gorfod hysbysu, er ein mawr ofid, am farwolaeth un o ffyddloniaid yr eglwys; un a fu yn ffyddlawn, diwyd a gweithgar, o dan lawer o anfanteision lawer tro.Ganwyd gwrthrych ein hysgrif yn Llanrug, sir Gaernarfon yn 1841. Ymfudodd i'r wlad hon pan yn ddyn ieuanc, a bu am beth amser yn gweithio yn y Dwyrain. Yna symudodd i Cambria, Wisconsin, ac oddiyno i Bangor, LaCrosse County, Wisconsin, ac oddiyno drachefn i ardal Lime Springs, Iowa. Gwnawd ef yn flaenor yn eglwys Foreston, ond ni bu yn hir cyn symud gyda'i deulu i'r ddinas hon, lle y gwnaeth ei gartref hyd y diwedd. Yr oedd yn un o sefydlwyr yr eglwys Gymreig yn y ddinas hon, a gwelodd yr eglwys yma, fel yn Iowa, fod cymwysder blaenor yn y gwr ieuanc, a dewiswyd ef yn flaenor y pryd hwnw, yr hon swydd a lanwodd hyd yr ymylon hyd y diwedd.
Yr oedd o ran ei gymeriad yn wr tawel, addfwyn a diymhongar. Yr oedd yn yr eglwys, fel yn ei gartref, yn dywysog ac yn dad; yn frenin a phroffwyd, yn ei gyngorion doeth a thadol, yn enwedig felly i'r rhai hyny fyddai yn tueddu i fynd ar gyfeiliorn, neu rai mewn trallod a phrofedigaeth. Mawr oedd ei ofal am braidd yr eglwys, mynych y gwelwyd ef yn ymweled a'r rhai hyny fyddai mewn tywydd garw, ac wedi blino gan waith y dydd, byddai ei wyneb siriol a'i wen nefol yn sirioli y trallodedig, ac yn rhoi balm i'w clwyfau.
Ond fe ddywed yr hen air, mai "Un tebyg i Fab Duw" oerodd y ffwrnais yn Babilon, ac mae rhai tebyg iddo yn gallu oeri y pair lawer tro. Un tebyg iawn i Fab Duw oedd Humphrey O. Roberts, yn addfwyn, pur a gostyngedig, llawn gweithredoedd da, ond llym neillduol yn erbyn pechod. Yr oedd yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau. Myfyriodd lawer ynddynt, fel y daeth yn gyfarwydd iawn yn mhrif athrawiaethau crefydd. Yr oedd ganddo barch calon i'r Ysgol Sabbothol. Magwyd ef ynddi, hi oedd yr unig athrofa a gafodd mae yn debyg; ynddi hi y dechreuodd ymgyfarwyddo a phethau a ddaeth yn brif bethau ei fywyd.
Gwasanaethodd fel athraw ffyddlawn, medrus a deallgar am flynyddau lawer, ac yr oedd gan y rhai oedd yn ei ddosbarth barch calon iddo. Yr oedd megys offeiriad yn y cyfarfod gweddi pan yn eiriol ar ran yr eglwys, ac yn erfyn am lwyddiant yr achos mawr ger bron Duw. Y mae bellach chwech o flaenoriaid Minneapolis yn y nefoedd, a chwech yn dysgwyl cael mynd yno.
A fydd y "Drych" mor garedig a chaniatau i enwau y chewch sydd wedi cael eu galw adref gael ymddangos, er parch i'w coffadwriaeth: John L. Owens, John H. Parry, David B. Thomas, D. T. Davies, Hugh J. Williams, H. O. Roberts. Cafodd Mr. Roberts gladdedigaeth dywysogaidd iawn. Gallesid yn hawdd weled fod un anwyl gan bawb yn cael ei gladdu, y capel yn orlawn. Yr oedd pedwar gweinidog yn gwasanaethu, sef Parchn. J. T. Evans, S. E. Prytherch, D. E. Evans a J. C. Jones, D. D., Chicago. Siaradai yr oll yn uchel am gymeriad pur a dilychwin yr ymadawedig.
Claddwyd yn mynwent Lakewood. Gadawodd yr ymadawedig bedwar o blant i alaru eu colled ar ei ol, sef Owen Roberts, Denver, Colorado; Mrs. Jennie Ingalls, Omaha. Nebraska, a Mrs. Sarah Reed, Minneapolis, a Humphrey Roberts. Seattle, Washington. Teg yw dweyd fod y plant, fel y tad, yn uchel eu parch yn y lleoedd y maent yn byw. Mae yn debyg y bydd i rywun sydd yn fwy cymwys a galluog na fi fanylu ar fywyd pur yr ymadawedig.
T. W. Roberts.