JOHN R. ROBERTS. DOLGEVILLE, NEW YORK.
Yn nghartref ei fab. John H. Roberts. yn Dolgeville, New York, brydnawn Mercher diweddaf, bu farw John R. Roberts yn 72 mlwydd oed.Genedigol ydoedd o Gymru, a daeth i'r America oddeutu 44 mlynedd yn ol. a threuliodd y rhan helaethaf o hyn yn Plainfield Center, ond symudodd oddeutu blwyddyn yn ol i fyw at ei fab, William, yn Bridgewater, ac oddeutu pedwar mis yn ol aeth at y mab, John, i Dolgeville. Heblaw ei ddau fab, y mae yn aros i alaru, un ferch, Mrs. Earl Davis, Unadilla Forks.