JOHN R. ROBERTS. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Nos Wener yn gynar, yn yr ysbyty, yn union ar ol ei gludo yno o'r ty lle y byrddiai, bu farw John Roberts (Jack Rob y Bwgan fel ei hadnabyddid), gynt o Poultney a West Pawlet, Vermont.Ni bu yntau yn wael ond rhyw wythnos. Symudir ei gorff yfory i Poultney i'w gladdu. Yno mae'n byw ei fab, William, a dwy chwaer. Yr oedd ei fab, Dafydd, yma er's ychydig amser.