JOHN WATKIN ROBERTS. NEW YORK MILLS, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 28. 1918.
Gyda thristweh yr wyf yn cofnodi marwolaeth a chladdedigaeth y diweddar John W. Roberts. 189 Wegman Park Place. Jersey City, New Jersey, o'r salwch sydd yn gordoi y wlad yn y dyddiau hyn. Ychydig ddyddiau fu yn wael, ac er pob gofal a gafodd oddi ar law y meddygon a'i anwyl briod, ehedodd ei ysbryd ymaith brydnawn dydd Gwener. Hydref 18fed.

Daeth i'r wlad hon er's amryw flynyddoedd yn ol o Blaenau Ffestiniog. Gogledd Cymru. Ymunodd mewn glan hriodas gyda Grace Jones o'r ardal hon tua chwe blynedd yn ol. Yna svmudasant i Jersey City, ac yno y treuliodd y gweddill o'i oes.

Gadawodd i alaru ar ei ol heblaw ei anwyl briod, un bachgen bach, Richard Earl, dau frawd Thomas Roberts, Yorkville. a William Roberts, Ilion. New York, a dwy chwaer yn yr Hen Wlad; yr oedd pawb yn hoff iawn o hono, efe yn gyfaill o'r iawn ryw, ac yn barchus yn ngolwg pawb. Bu hefyd yn ysgrifenvdd eglwys 11th Street, New York am amrvw o flynyddoedd.

Cafodd gladdedigaeth barchus iawn brydnawn ddydd Mercher, y Parch. Richard Hughes. D. D., yn gwasanaethu yn y ty ac wrth y bedd. Rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn Glen Side Cemetery. New York Mills, ac yr oedd ei arch wedi ei gorchuddio gan flodau.

Y Drych ~ Hydref 31ain, 1918.