LAURA SARAH ROBERTS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Am saith o'r gloch nos Sadwrn ddiweddaf, terfynodd gyrfa y chwaer Laura Roberts, priod Thomas Hughes, 107 Gold Street, yn yr oedran o 41 mlwydd oed. Ni fu yn wael ond ychydig ddyddiau, a thorwyd hi i lawr gan glefyd y galon.Ganwyd yr ymadawedig yn Mhorthmadog, Gogledd Cymru, ac enw ei rhieni oeddynt William a Jane Roberts. Naw mlynedd yn ot ymfudodd i'r wlad hon gan sefydlu yn Utica, ac yn Ebnil 23ain, 1910, ymunodd mewn priodas a Mr. Hughes. Yr oedd yn aelod o eglwys Bethesda, ac yn ffyddlon i gynulliadau y saint. Heblaw ei phriod gedy un mab, Stanley E. Hughes; dau frawd, Robert B., o Porthmadog, ac Ellis, yn Kent, Lloegr; tair chwaer. Ellen Roberts, Stockport; Kate ac Elizabeth Roberts, Porthmadog.