LEWIS I. ROBERTS. SOUTH POULTNEY, VERMONT.
MARW CYMRO ANRHYDEDDUS.
Foreu Sadwrn diweddaf, yn Schenectady, New York, bu farw y Cymro caredig, Lewis I. Roberts, o South Poultney, Vermont, yn 65 mlwydd oed.Brodor o Tanygrisiau, Ffestiniog, oedd Lewis I. Roberts, ac yn hanu o deulu anrhydeddus yno, a brawd iddo oedd y Cymro adnabyddus, y diweddar Humphrey Roberts, Cwmorthin, Tanygrisiau.
Ymfudodd efe yn gynar ar ei oes i'r wlad hon, a sefydlodd yn ardaloedd y chwareli, ac yn y cylchoedd hyny y gwnaeth ei gartref hyd oddeutu dau fis yn ol, pryd y symudodd at ei blant i Schenectady. Chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn gysylltiol a Thomas R. Roberts mewn dadblygu un o chwarelau y dyffryn.
Brydnawn llun, yn Schenectady, cymerodd ei angladd le, y Parch. Mr. Carter yn gweinyddu. Daearwyd y gweddillion yn Vale Cemetery.
Y plant ydynt: Mrs. J. C. Jones. Globe, Arizona : Mrs. Morris S. Jones, Remsen, New York; Miss Barbara Roberts, Albany; Lewis, yn Ffrainc; Isaac, John, Robert a Harriet yn Schenectady, New York.