MORRIS ROBERTS. BUTTE, SILVER BOW, MONTANA.
Mawrth 5ed, 1918. Gofidus genym orfod cofnodi marwolaeth y diweddar Morris Roberts wedi hir nychdod.Cyfeiriwyd genym mewn ysgrif flaenorol at ei waeledd, ond yr oedd yn gallu cerdded oddi amgylch yn lled dda hyd o fewn dau ddiwrnod i'w farwolaeth. Pan ganfyddwyd fod y diwedd yn prysur agoshau, symudwyd ef gan ei gyfeillion i'r Murray's Hospital, lle y bu farw ar yr 16fed o Chwefror.
Claddwyd ei wedlillion yn Mountain View Cemetery y Sabboth canlynol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. H. Rexroad, gweinidog y Presbyteriaid. Cafodd angladd hynod barchus er fod yr hin yn anffafriol.
Brodor o Prenteg, Tremadog, ydoedd yr ymadawedig. Daeth i'r wlad hon oddeutu pedair blynedd yn ol. Gedy weddw a dau o blant i alaru ar ei ol yn Nghymru.