MORRIS ROBERTS. EMPORIA, KANSAS.

Ganwyd gwrthrych hyn o ysgrif yn ardal dawel a chrefyddol Trawsfynydd, Meirionydd, Mawrth yr 8fed, 1848.

Ymfudodd i'r wlad hon pan yn ddyn ieuanc ugain oed, ac ymsefydlodd yn Utica a'r cyffiniau, lle yr arosodd am ddwy flynedd ac y dychwelodd drachefn i Gymru. Cyn hir ymbriododd gyda Miss Elizabeth Williams, merch i William ac Elizabeth Williams, Dolymynach, yn ardal ei enedigaeth. Dychwelodd i'r wlad hon yn ngwanwyn 1889, ac ymsefydlodd fel amaethwr yn ardal Cymru Newydd, talaeth Missouri. Yn Mai, 1890 daeth ei briod a phedwar o blant i'w ganlyn, ond byr fu ymdaith y fam ar ol cyraedd, oblegid yn Rhagfyr, 1896, gorphenodd ei gyrfa ddaearol, a gadawyd y teulu mewn galar mawr ar ei hol.

Dywedir hyd heddyw ei bod yn un o'r gwragedd mwyaf rhinweddol ac yn un o'r mamau duwiolaf a adnabuwyd erioed. Gymaint oedd effaith ei marwolaeth ar ei phriod fel y methodd ag aros ond am gyfnod byr iawn yn y cartref ar ol ei marwolaeth hi. Cafodd y plant eu hymgeleddu yn dda gan gyfeillion tyner a charedig tra y tad yn chwilio am gartref newydd yn nghymydogaeth Emporia, Kansas, lle y treuliodd weddill ei oes.

Cyfyngodd saith mlynedd olaf ei fywyd fel prif oruchwyliwr gwesty y Kynaston, yn Emporia. Wedi wythnosau o gystudd blin a chaled yn ysbyty Sant Mair, bu farw mewn tawelwch Mawrth 14eg, 1918. Dranoeth cynaliwyd gwasanaeth byr yn nghapel y Presbyteriaid Cymreig, lle yr oedd wedi bod yn aelod am flynyddoedd, a symudwyd y gweddillion i Gymru Newydd, Missouri, lle y daeth torf fawr yn nghyd i arwyddo eu parch i'w goffadwriaeth ac i amlygu eu cydymdeimlad a'r plant. Cynaliwyd y gwasanaeth yn y capel Presbyteraidd, pryd y gweinyddwyd gan yn ysgrifenydd, a'r Parch. C. H. Perea. Nid a dydd Sadwrn, Mawrth yr 16eg, byth o gof y plant, oblegid dyna'r dydd y claddwyd eu hanwyl dad yn ymyl y fam dyner a charedig oedd wedi ei flaenu er's blynyddoedd, a llecyn cysegredig iawn iddynt hwy ydyw gorphwysfan dawel eu rhieni hoff ar lethr bryn y fynwent hardd lle yr huna llawer o hen Gymry duwiol yr ardal uchod. O! mor ddyrys yw troion Rhagluniaeth. Pwy fedr eu deall?

Dyma dad a mam a phedwar o blant wedi eu geni yn Nghymru bell; heddyw huna y rhieni yn naear yr Amerig fawr ac mae'r plant wedi eu gwasgaru ganoedd o filldiroedd oddiwrth eu gilydd, ond yr oll wedi dringo i safleoedd o anrhydedd a chyfrifoldeb mawr. Morris ydyw prif gyfreithiwr cwmni rheilffordd y Burlington, gyda'i swyddfa yn St. Joseph, Missouri; efe ydyw awdwr y gyfrol gyfreithiol a adnabyddir fel y "Roberts Injuries to Interstate Employees on Railroads," a gyhoeddwyd gan gwmni y Bobbs-Merrill, argraffwyr a chyhoeddwyr, Indianapolis, Indiana. Gwerthir y gyfrol am $5 a $6 yn ol y rhwymiad, ac mae'r awdwr yn prysur drefnu i ddwyn allan gyfrol arall sydd yn mynd i gael cylchrediad eang fuaned y daw o'r wasg. Nid yw yr awdwr eto ond dyn ieuanc iawn, ond y mae ei awdurdod a'i ddylanwad yn myd y gyfraith wedi tynu sylw a chymeradwyaeth cylch eang o ddynion dysgedig, ac y mae iddo ddyfodol pwysig iawn yn nglyn a'i alwedigaeth.

Mae Robert yn raddelig o athrofa Parkville. Missouri ac athrofa dduwinyddol McCormick, Chicago, ac efe ydyw gweinidog y Presbyteriaid yn Jerome, Idaho. Dyma ei faes cyntaf ar ol ei ordeiniad tua blwyddyn yn ol, ac y mae wedi ei dori allan gan natur a gras i fod yn bregethwr rhagorol ac yn ddyn defnyddiol a bendithiol yn ngwaith Deyrnas.

Elizabeth ydyw prif athrawes uwch-ysgol tref Neal, Kansas, a chanddi yr enw ei bod yn fedrus a galluog yn ei gwaith. Y mae ganddi ffordd i swyno yr ysgolorion i gyflwr o weithgarwch ac ufudd-dod gyda'i gwersi, yr hyn sydd wedi rhoddi iddi le cynes iawn yn nghalonau llu o blant a phobl ieuainc yn mhob lle ag y mae hi eisoes wedi llafurio fel athrawes. Colled fawr i dref Lebo, Kansas, oedd iddi ymadael o'r ardal ychydig amser yn ol, ond y mae dymuniadau goreu yr holl ardal yn ei dylyn yn amlwg o hyd.

Mary ydyw priod J. C. McConnell, yr hwn yw perchenog a golygydd newyddiadur dyddiol tref Alva, talaeth Oklahoma. Yn flaenorol i hyny yr oedd yn athrawes alluog a llwyddianus iawn mewn amryw o ysgolion goreu ein gwlad, ac y mae talent a dawn arbenig yn perthyn iddi.

Dengys y ffeithiau hyn fod yni a phenderfyniad crefyddolder a dyfalbarhad, yn nghyd a diwydrwydd diball y plant rhagorol hyn wedi eu codi yn uchel iawn yn myd addysg ac mewn cylchoedd eglwysig, ac anaml iawn y clywir am rai wedi enill anrhydedd a bri o dan gymaint o anfanteision yn ngwyneb y fath anhawsderau ag a ddaeth i'w rhan hwynt mor gynar yn eu hoes. Ac er cymaint eu pellder oddiwrth eu gilydd glynant y naill wrth y llall fel y gragen wrth y graig, er gwaethaf tonau mor cynyrfus bywyd.

Yr oedd Morris Roberts yn gymeriad hynod ar lawer cyfrif. Yr oedd ganddo ei ffordd ei hun i feddwl yn mhob cyfeiriad, ac yn ol ei feddwl ei hun penderfynai natur a gwerth pob mater o bwys ddeuai o dan sylw. Pe wedi cael cwrs o addysg athrofaol gallasai fod wedi codi yn uchel iawn mewn gwybodaeth a dylanwad. Yr oedd ganddo alluoedd naturiol uwchraddol, ac yr oedd ei wybodaeth mewn gwahanol gyfeiriadau yn eang, yn gymaint felly nes yr oedd yn anhawdd cyffwrdd a dim nad oedd ganddo syniad pur glir a chywir yn ei gylch. Amaethwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, ond yr oedd wedi cael amser ryw fodd neu gilydd i ddarllen llawer iawn ar lyfrau duwinyddol ac athronyddol o bwys, ac nid oedd ond llyfrau safonol yn apelio at ei chwaeth.

Cymerodd le blaenllaw yn nghylchoedd crefyddol a gwleidyddol Meirionydd am hir amser. Bu yn ddiacon yn eglwys y M. C. yn Trawsfynydd, a thrachefn yn eglwys yr un enwad yn Bryncrug, i'r hwn le y symudodd i amaethu ar linellau eangach nac a wnaethai o'r blaen. Yr oedd yn Gymro trwyadl o ran ysbryd, arddull a thafodiaith, ac yn Nghymru y mynai fyw gyda phob peth. Crefydd a gwleidyddiaeth gwlad ei enedigaeth oedd ar ei feddwl, ac nid oedd neb iddo ef fel pregethwyr a gwleidyddwyr Cymru. Nodau y rhai hyn oedd arno, ac yr oedd yn gyfarwydd a'u hanes ac yn hollol foddhaol ar adrodd eu helynt. Yn gyfundebol yr oedd yn Fethodist o'r Methodistiaid, ac yn wleidyddol yr oedd yn Rhyddfrydwr i'r carn, a Cheidwadaeth yn un o'i gas bethau, er fod iddo frawd yn sefyll yn amlwg yn mhwlpud yr Eglwys Sefydledig. Safodd o blaid Rhyddfrydiaeth ar yr un esgynlawr a dynion fel yr anfarwol Tom Ellis, yr enwog Syr Herbert Lewis, a'i digyffelyb wladweinydd Lloyd George.

Yr oedd yn hollol gartrefol ac yn gwbl wrth ei fodd pan yn son am y dynion hyn ac eraill o'r un dosbarth. Siaradai mor llithrig a pharablai mor rhwydd a didrafferth a phe wedi cael addysg arbenig ar gyfer hyny, ac yr oedd ei iaith yn dra chlasurol, yn enwedig pan fyddai natur yr ymddyddan yn galw am hyny. Yr oedd ei hiraeth am Gymru yn angerddol ar adegau, oblegid arweinwyr Cymru mewn byd ac eglwys oedd prif gymeriadau delfrydol ei holl yrfa ddaearol.

Dyoddefodd ei gystudd yn dawel a di-rwgnach. Daeth y plant i gyd ato i weini arno ac i ofalu am dano, a thystiai ei fod yn eu gweled fel engyl yn ei ymyl, yr hyn hefyd oeddent yn ystyr oreu y gair. Ni chafodd dim ei arbed er ei fwyn, mewn arian, amser na gofal. a sicrhawyd y meddygon goreu o bell ac agos i geisio ei adfer. Ond er cymaint cariad plant, ac er cymaint ymdrech meddygon, nid oedd dim yn tycio, a gwaelu yr oedd o hyd o dan effaith gwaedlif yr ymenydd nes y dygwyd ef o'i gyflwr anymwybodol gan angeu i fyd yr ysbrydoedd. Ychydig cyn iddo golli ei ymwybyddiaeth, tra ar ymweliad ag ef yn yr ysbyty, ceisiem ei sirioli a'i galonogi trwy ofyn a gaem ni weddio gair yn nghyd, i'r hyn yr atebodd, "O! ie wir. Dyna'r fan i fyned. Nid oes yr un lle fel gorsedd gras, na neb fel Duw i'n gwrandaw."

Pan ddaeth y diwedd cafodd ollyngdod mawr, a chafodd un o'r angladdau mwyaf anrhydeddus a welsom erioed. O herwydd ei fod yn gymaint o Gymro parchwyd ei goffadwriaeth ddydd yr angladd trwy roddi rhan fawr o'r gwasanaeth yn Gymraeg, am yr hyn y diolchai y plant a llawer eraill. Canwyd yn effeithiol ar lan y bedd hen emyn y Cymry i blant yr adgyfodiad, "Bydd myrdd o ryfeddodau," a.y., a chefnodd pawb ar ddinas y meirw yn y gobaith o gael bod yn mysg y rhai fyddant.

"Oll yn eu gynau gwynion,
Ac ar eu newydd wedd,
Yn debyg idd eu Harglwydd,
Yn dod i'r lan o'r bedd."

Gan H. P. M.

Y Drych ~ Mehefin 6ed, 1918.