OWEN ROBERTS. SEATTLE, KING, WASHINGTON.
Syndod ddaeth ar bawb pan fu farw Sergeant Owen Roberts, chief guard of the Stockade, oblegid yr oedd efe yn anterth ei nerth a'i ddyddiau.Ond damwain a ddygwyddodd iddo a brofodd tu hwnt i dim gallu daearol i'w achub rhag ei ganlyniadau angeuol.
Genedigol o Groesor, Sir Feirionydd oedd Sergeant Roberts. Daeth i'r wlad hon ac i Seattle pan yn wr ieuanc, ac ymunodd yn ddiymdroi a "force" y ddinas.
Er wedi tori ei gysylltiad a Chymry y ddinas y raddau, eto yr oedd iddo air da a chymeradwv gan bawb. Cafodd gynhebrwng fawr ac urddasol. a daeth y Cymry allan yn lluoedd i ddangos eu parch i'w cymrawd.