ROBERT WALTER JONES. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn nghartref ei chwaer, Mrs. Charles Williams. 31 Faxton Street, nos Sadwrn diweddaf, bu farw y brawd adnabyddus R. Walter Roberts, o Remsen, New York, aelod blaenllaw a diacon cywir yn eg lwys M. C. Penygraig.Cafodd gystudd maith, a phoenus, a bu yn yr ysbyty am dymor pur faith, ond yn ei afiechyd, gobeithial am gael byw ychydig yn ychwaneg er mwyn ei deulu.
Ganwyd yr ymadawedig yn nghyffiniau Pwllheli. Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1870; enwau ei rieni, Robert a Susannah Roberts.
Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1889. a dychwelodd i Gymru yn ddiweddar, lle yr ymunodd mewn priodas a Miss Annie Williams, gan diychwelyd yn fuan i'r wlad hon.
Yn aros i alaru ar ei ol, y mae ei briod a pump o blant, Jason E, Catherine, Elizabeth, Anna a Robert; tair chwaer, Mrs. Charles Williams a Mrs W. R. Evans, o'r ddinas hon: Mrs. Gwiym E. Jones. Dodgeville. Wisconsin, a dau frawd, G. Cornelius, yn Pwllheli, Gogledd Cymru a William E. yn Lloegr.