ROBERT W. ROBERTS. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Dydd Mercher, y 15fed, bu farw Robert W. Roberts ar ol dyoddef cystudd blin. Yr oedd wedi ei barlysu wyth mlyneld yn ol, fel nas gallai symud heb gynorthwy, ond yr oedd yn llawen a siriol bob amser hyd o fewn rhai wythnosau'n ol.

Ganwyd yr ymadawedig yn Cynwyd, ger Corwen, Meirionydd, Gogledd Cymru, Tachwedd 5ed, 1849, yn un o chwech o blant, pedwar wedi ei ragflaenu, a'r un sy'n aros yw Daniel W. Roberts, Granville, New York.

Daeth i'r wlad hon yn ieuanc, gan sefydlu yn South Poultney; yn mhen dwy flynedd ymunodd mewn glan briodas a Miss Ellen Morris, merch hynaf y diweddar Mr. a Mrs. Griffith Morris o'r un lle.

I hiraethu ar ol priod a thad gofalus a darbodus, gadawodd briod a saith o blant, y rhai sydd wedi tyfu i fyny yn anrhydedd i'w rhieni. Os bu efe yn gofalu am danynt hwy yn ffyddlon wrth eu magu, buont hwythau yn hynod felly iddo yntau yn ei gystudd maith a blin, sef G. W. Roberts, Howell, Thomas, Maurice, Laura, Blodwen ac Ifor; yr oll yn y lle hwn.

Yr oedd ein cyfaill yn hynod o fedrus mewn amryw alwedigaethau, yn neillduol felly yn y chwarel. Yr oedd yn gymydog caredig a gair da iddo gan bawb, fel gwr gonest, tawel a diymhongar. Rai blynyddau'n ol symudasant i'r lle hwn fel teulu, ac maent oll yn gaffaeliad mawr i'r achos goreu yn y lle. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon a gweithgar o'r eglwys Gymreig, a bydd colled fawr ar ei ol.

Yr oedd yr angladd ddydd Sadwrn, y 18fed cyfisol. Gwasanaethwyd yn yr addoldy gan y gweinidog, y Parch. J. W. Morris a Dr. Dunton. y cor a'r dyrfa yn canu emynau o ddewisiad yr ymadawedig. Yr oedd llawer o blethdorchau a blodau prydferth yn gorchuddio cauad yr arch, wedi eu cyflwyno gan berthynasau a chyfeillion. Gwasanaethwyd ar lan y bedd yn mynwent Poultney gan Mr. Morris, a chanodd y cor "Bydd mvrdd o ryfeddodau." Heddwch i lwch ein hen gyfaill; bydd eu lle yn wag yn hir.
Ioan Eryri.

Y Drych ~ Mai 30ain, 1918.


ROBERT W. ROBERTS. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Robert W. Roberts, sixty nine years of age, died at his home last Wednesday evening, after an illness of seven years.

He is survived by one brother, Daniel W. Roberts of Granville; his wife and seven children, G. William Roberts of Granville; Howell Roberts, Thomas Roberts, Maurice R. Laura A., Miss Blodwen O., Ivor R., and Elwyn E. Roberts.

The funeral was held Saturday afternoon at the Welsh Church, Rev. J. W. Morris, pastor, officiating, assisted by Dr. C. H. Dunton.

The bearers were Owen Jones, Thomas C. Williams, Thomas Hughes, Isaac Davies, William owen and Robert G. Hughes.

Burial was in Poultney Cemetery.

Granville Sentinel ~ May 24th, 1918.