WILLIE ROWLANDS. GRAND FORKS, GRAND FORKS COUNTY, NORTH DAKOTA.

Hydref 4ydd, 1918.
Foreu heddyw, derbyniais lythyr oddiwrth Miss Ellen Thomas, Inkster, North Dakota, yn fy hysbysu am farwolaeth un arall o fechgyn glan Bethesda, ac un o blant capel y Carneddi, sef William Rowlands (neu Willie Rowlands) y plumber, Grand Forks. North Dakota, lle y cartrefai er's blynyddoedd bellach. Ni fu y brawd yn wael ond ychydig; tarawyd ef gan yr hen elyn marwol y Bright's disease pan wrth ei waith, ac yn mhen tair awr ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef.

Cymeriad doniol oedd Willie Rowlands, ac yn un ag yr oedd braidd bawb yn hoff o hono, ac yn un o garedigion y ddaear. Mae yn debyg fod llawer o fechgyn Bethesda yn ei goflo yn dda; bu yn edrych ar ol gwaith dwr yn Bethesda, fel plumber, flynyddau yn ol. Y mae yntau wedi tarddu o hen deulu parchus yr ardal. Yr oedd yn wyr i'r diweddar John Thomas Rowlands, Nant-y-ty, ac yn fab i Thomas Rowlands. Cilfodan. Dygwyd yntau i fyny fel fy hen gyfaill, Owen Prydderch, ar fronau hen eglwys y Carneddi, ac mae yn sicr genyf fod yr had da a blanwyd ynddo fel y rhelyw o honom fechgyn yr hen ardal wedi cael dyfnder daear.

Y mae yn chwith gweled ein hen gyfeillion yn myned y naill ar ol y llall. Derbynied ei deulu yma, a'r teulu yn yr Hen Wlad, ein cydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth lem.

Y Drych ~ Hydref 24ain, 1918.