MARGARET THOMAS. MANKATO, MINNESOTA.
Nos Sul, Mai 26ain, bu farw y chwaer uchod yn nghartref ei merch, Mrs. Robert I. Jones a'i phriod, Mankato. Cafodd fynediad tawel i'r hafan ddymunol. Cymerodd yr angladd le y dydd Mercher canlynol. Cynaliwyd gwasanaeth cyn cychwyn o Mankato, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Hugh C. Griffiths a John D. Jones. Dygwyd y gweddillion i Lake Crystal, pryd y cynaliwyd gwasanaeth yn yr addoldy Cymreig, y Parch. David Edwards, Lime Springs, yn ychwanegol at y ddau frawd a nodwyd eisioes, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Gosodwyd y gweddillion i orphwys yn mynwent brydferth Lake Crystal. Gwasanaethwyd fel archgludwyr gan William J. Jones, John R. Owens, Humphrey J. Roberts, David E. Evans, Peter Lloyd a William Wigley, Mankato. Cafodd angladd lluosog a pharchus iawn.Genedigol ydoedd o ardal Dwygyfylchi, Sir Gaernarfon. Ganwyd hi Gorphenaf 6ed, 1836. Daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni yn 1850. Yr oedd oddeutu 400 o Gymry yn dod drosodd yr un adeg yn y llong Queen Forest; erbyn hyn diau nad oes ond nifer bychan iawn yn fyw.
Ymsefydlodd y teulu i ddechreu yn ardal Cambria, Wisconsin. Ymunodd mewn priodas a Robert R. Thomas Tachwedd 7fed, 1866. Ganwyd iddynt bump o blant, o ba rai y mae dau yn fyw, sef Mrs. Robert I. Jones, Mankato, a Mr. William E. Thomas, yr hwn sydd yn un o fasnachwyr llwyddianus Lake Crystal. Symudodd hi a'i phriod i ardal Cambria. Minnesota, yn 1867, ac yn ddiweddarach i ardal Butternut Valley, lle y gwnaethant eu cartref hyd 1897, pryd y symudasant i gartrefu yn Lake Crystal. Yn ystod y blynyddau y gwnaethant eu cartref yn ardal Butternut Valley, yn ychwanegol at fod yn ddiwyd a llwyddianus gyda'r amaethu, bu y teulu yn gefn da i'r eglwys yn Bethel, ac fel arddangosiad o werthfawrogiad yr eglwys o'u llafur a'u ffyddlondeb, dewiswyd Robert R. Thomas, neu fel yr adwaenid ef oreu, Robert R. Thomas, Bryn Glas, yn un o ddiaconiaid yr eglwys, a chyflawnodd ddyledswydd y swydd gyda'r ffyddlondeb hwnw ag oedd mor nodweddiadol o hono yn nghyflawniad o bob gorchwyl ymddiriedid i'w ofal.
Ar ei symudiad i gartrefu yn Lake Crystal, cafodd ei alw i'r un swydd. Cyfarfu ein hanwyl chwaer a phrofedigaeth lem yn 1906, trwy farwolaeth ei hanwyl briod. Bu am ysbaid yn cadw ty ei hunan, a o herwydd henaint a llesgedd, gwnaeth ei chartref gyda'i mab a'r teulu, ac am y blynyddau olaf gyda'i merch a'r teulu yn Mankato. Cafodd bob gofal a charedigrwydd oddiar law y ferch a'r mab a'u teuluoedd. Yr oeddynt oll, o'r hynaf hyd yr ieuengaf yn gwneyd yr oll a allent er ei chysur.
Perthynai i Mrs. Thomas amryw ystyriaethau ag oedd yn ei nodi allan fel un o ragarolion y ddaear.
1. Yn ei gwaith yn craffu ar ffyrdd tylwyth ei thy. Bu yn ymgeledd gymwys i'w phriod yn ystod y blynyddau meithion y cawsant gydfyw. Yr ydoedd yn ofalus iawn am ei phlant, yn gwarchod gartref, ac yn llenwi yr enw prydferth hwnw, "Gwraig ddoeth a adeilada ei thy."
2. Yn ei gofal am gadwraeth y Sabboth. Meddai barch dwfn i'r Sabboth ac ordeiniadau ty Dduw. Yr ydoedd yn dra gofalus am fod pob gorchwyl ellid ei chyflawni fod eu cyflawni yn brydlon erbyn nos Sadwrn fel y ceid y Sul mor gyfiawn ag yr oedd modd i'w dreulio gyda phethau crefyddol. Nid oedd dim a'i blinai yn fwy na gweled neb yn ddiystyr o hawliau dydd Duw.
3. Yn ei ffyddlondeb gyda moddion crefyddol. Bu yn ffyddlawn tra y caniataodd nerth corfforol iddi fod, ac wedi iddi fethu, hawdd canfod mai pethau crefydd oedd ei phethau mawrion, a'r pethau oedd yn gweinyddu mwyaf o gysur iddi. Darllenai lawer ar y Beibl, a lyfrau da eraill. Byddai ei phrofiad yn yr eglwys bob amser yn dangos llawer o ol cymdeithas a'r gwirionedd; ac er na byddai un amser yn ei phrofiad yn gwneyd rhyw honiadau uchel, eto yr oedd yn hawdd deall ei bod yn teimlo tystio!aethau y gwirionedd yn greigiau cedyrn dan ei thraed.
4. Yn ei hymostyngiad tawel i ewyllys yr Arglwydd yn mhob amgylchiad cyfarfu hithau, fel y lluaws, a phrofedigaethau chwerwon, eto byddai mor dawel a hunanfeddianol yn y cyfan, fel mai prin y gwvddai neb fod dim an-nghyffredin wedi cymeryd lle. Erbyn hyn y mae y fam anwyl hon yn Israel wedi gadael byd y gofidiau, a myned i mewn i lawenydd ei Harglwydd. Y mae i'r mab a'r ferch a'r perthynasau oll gydymdeimlad dwfn yr ardal yn eu profedigaeth. Duw pob gras a roddo yn helaeth iddynt o gysuron yr efengyl.
Gan y Parch. David Edwards, Lime Springs, Iowa.