MARGARET THOMAS. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.

Ar ol deuddeg diwrnod o waeledd o'r clefyd Ysbaenaidd, bu farw Margaret Thomas, merch i Mr. a Mrs. William Thomas, Washington Street, o'r dref hon, Tachwedd 5ed.

Ganwyd yr ymadawedig yn Carneddi, Bethesda, Gogledd Cymru, Rhagfyr 15fed, 1892. Cymerodd yr angladd le, Tachwedd 9fed, pryd y gvasanaethwvd yn ddwys ac effeithiol gan y Parch R. E. Williams, Philadelphia. Pennsylvania; oherwydd rheolau y bwrdd iechyd, yr oedd yr angladd yn breifat. Canwyd dau emyn yn Gymraeg; "Cawn esgyn o'r dyrys anialwch." ac "Ar ol gofidiau dyrys daith," ac un emyn yn Seisnig, "Jesus, Lover of my soul."

Yr elor-gludwyr oeddynt ei dau gefnder, Thomas a John Wililams, yn nghyd a phedwar o wyr ieuainc o gapel y T. C., sef Idwal Griffiths, Henry McLeary, David J. Jones a Thomas E. Jones. Yr oedd yn bresenol yn yr angladd ei dosbarth yn yr Ysgol Sul o Eglwys y T. C., o'r hon eglwys yr ydoedd yn un o'r rhai ffyddlonaf a gweithgar, ac fe alwodd y Parch. R. E. Williams hwy at lan y bedd i gael yr olwg ddiweddaf arni, a gwnaeth sylw neillduol o'r peth, sef y fraint a gafodd yr ymadawedig i ddweyd wrth y rhai ag oedd wedi bod dan ei gofal am Iesu Grist fel Gwaredwr y byd; "a chwi ieuenctyd," meddai, "dylynwch ei esiampl."

Rhoddwyd hi i orphwys hyd ganiad yr udgorn diweddaf yn mynwent Fairview. Gadawa i alaru ar ei hol, ei thad a'i mam, a dwy chwaer, Jane a Ruth, a llu mawr o gvfeillion. Bydd bwlch mawr ar ei hol yn y teulu, yn yr eglwys, ac yn mysg y bobl ieuainc yn yr ardal. Nerth gaffo y teulu anwyl yn yr amgylchiad pruddaidd, ac y cant edrych yn mlaen at y "family reunion" yn y nefoedd draw yn y man, ac y bydd Margaret yno yn eu dysgwyl i roddi "welcome" nefolaidd iddynt oll. Hefyd cymerodd gwasanaeth arall le o flaen yr angladd, sef bedyddio nai i'r ymadawedig, sef mab bychan ei chwaer, Jane.
Cyfaill.

Y Drych ~ Rhagfyr 5ed 1918.