MORGAN WILLIAM THOMAS. PITTSBURGH, ALLEGHENY COUNTY, PENNSYLVANIA.

Y mae genym y gorchwyl pruddaidd y tro hwn eto o anfon gair i'r "Drych" am farwolaeth Morgan Thomas yn Pittsburg, Pennsylvania, sef mab Mrs. William Thomas, merch i Morgan Jones, Bryn-foty, Cwmyglo gynt. Gogledd Cymru. Y mae Mrs. Thomas yn byw yma er's 40 mlynedd. Yr oedd yn 48 mlvvydd oed. Bu farw ar ol triniaeth bwysig at waedwenwyniad er pob ymdrech i arbed ei fywyd.

Saer priddfeini oedd wrth alwedigaeth, ac yn cael ei ystyried yn y dosbarth blaenaf yn y gelfyddyd. Gadawodd i alaru ei golled ar ol tad tyner a gofalus, gwraig a naw o blant a mam ac un chwaer.

Y mae cydymdeimlad yr ardal a Mrs. Thomas a'r teulu yn Pittsburg. Duw a fyddo yn dyner o honynt.
Gan Harri O Wynedd.

Y Drych ~ Mehefin 27ain, 1918.