JANE DAFYDD THOMAS. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Mai lleg, 1918.
Gofidus genym gofnodi hanes marwolaeth a chladdedigaeth Mrs. William E. Thomas, yr hyn gymerodd le boreu ddydd Gwener, y 3ydd o Fai, yn ei chartref ar North Main Street.

Bu yn wael am yn agos i dair blynedd, ond yn gallu myned oddi amgylch, ac yn y cyfnod yna, gweinyddwyd arni yn ofalus gan ei hanwyl briod, a'i dwy wyres, Blodwen ac Annie Thomas, y rhai oedd yn cartrefu gyda eu taid a'u nain.

Ganwyd hi Hydref, 1853, yn Gareg Lydan. Dinorwig, Arfon, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i ferch Robert Griffith Dafydd, Gareg Lydan, ac yn nith i'r diweddar Robert Davies, California. Mae iddi un chwaer, sef Mrs. Robert R. Williams, New York.

Priodwyd hi gyda William E. Thomas. Tanycoed, Bethesda, Gogledd Cymru yn y flwyddyn 1871, yn Williamstown. Pennsylvania. Ganwyd iddynt bedwar o blant, o ba rai mae dau yn fyw, sef Mrs. Woodard yn y pentref hwn, a William Thomas yn Poultney, Vermont.

Cymerodd yr angladd le y dydd Sul canlynol. Gwasanaethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. J. D. Owen (A.); yr oedd yno gynulleidfa luosog wedi dod yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi o bell ac agos. Wedi eu gadael mewn dwfn alar y mae ei hanwyl briod a'i ddwy wyres, mab a merch, a'i chwaer, yr hon oedd wedi dod i'r angladd yn nghyd a'i merch, Miss Bessie Williams, New York. Daearwyd yn meddrod y teulu yn Poultney, Vermont. Yr oedd ei harch wedi ei gorchuddio gan flodau prydferth. Nawdd y nefoedd fo dros y teulu galarus.

Dymuna y teulu gydnabod yn ddiolchgar bob caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth lem hon.
Cymraes.

Y Drych ~ Mai 16eg 1918.