ABRAM WILLIAMS. YORK TOWN, GER HAZLETON, PENNSYLVANIA.
Ar ol dyoddef arteithiau celyd o'r pneumonia, am beth amser, hunodd y brawd anwyl a rhinweddol, Abram Williams yn yr angeu Mai lOfed. 1918, yn 45 mlwydd oed, yn nghanol ei ddefnyddioldeb.Derbyniwyd y newydd uchod gyda phrudd-der dwfn gan ei lu cyfeillion yn mhell ac agos. Daeth yr ymadawedig i'r wlad hon 26 mlynedd yn ol o Maesmeddygon ger Llandinorwig. Gogledd Cymru.
Bu farw ei rieni pan ydoedd yn lled ieuanc, ac yn fuan wedi dod i'r wlad hon ymunodd mewn priodas a Sarah Jones o Bethesda, Arfon. Ymsefydlasant yn nghymydogaeth Hazelton, Pennsylvania, lle y treuliasant eu holl fywyd priodasol.
Ganwyd iddynt saith o blant, chwech o ba rai sydd yn fyw; pump o fechgyn ac un ferch; yr oll yn blant rhinweddol, wedi dysgu gan eu tad i rodio y llwvbr cul. Adeiladodd iddo ei hun gymeriad ardderchog. Yn y lofa, ystyrid ef yn weithiwr cyhyrog a medrus, ac fel cymydog yn ddyn tawel a chymwynasgar; fel tad yn serchog a darbodus; ond yn ei ogoniant, caed ef fel crefyddwr, ac yno gwelwyd ef yn flaenor, yn arolygydd yr Ysgol Sul, yn drysorydd yr eglwys ac yn y cysylltiad hwn, dywedodd Mr. Jenkins, y gweinidog beth aruchel am dano.
Ddydd Llun, Mai 13eg, daeth tyrfa o'i gyfeillion o bell ac agos i'w hebrwng i'w dy olaf, a gweinyddwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. W. Jenkins, y gweinidog.
Claddwyd ef yn mynwent Janeville. Erys i hiraethu ar ei ol, briod. chwech o blant yn y wlad hon, chwiorydd yn yr Hen Wlad, a llawer o berthynasau yn y ddwy wlad. Tebyg y gwna rhai o weinidogion yr Annibynwyr nodiadau pellach am dano. Bydded i'r plant ddylyn ol traed eu tad. Dymunir ar i'r "Herald Cymraeg" godi yr hanes.
O. William Tibbett.