JOHN W. WILLIAMS. ROBERTS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Heddyw mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi y diweddar gyfaill, John W. Williams, yr hyn a gymerodd le yn ei gartref, 1206 Howard Avenue, nos Iau Hydref 16eg, ar ol dyoddef o hono yn hir o'r afiechvd poenus yr asthma. Dyoddefodd ei gystudd yn dawel a dirwgnach.Brodor ydoedd yr ymadawedig o Bethesda, Arfon, a ganwyd ef yn y flwyddyn 1853. Daeth drosodd i'r America, yn y flwyddyn 1870 gan sefydlu yn ninas Utica, ac yma y treuliodd weddill ei oes. Dysgodd ei grefft fel pobydd, ond bu gorfod iddo roddi ei alwedigaeth heibio o herwydd cyflwr ei iechyd. Cyngorwyd ef gan ei feddygon i fyned allan i'r awyr agored i weithio a chydsyniodd a hyny. Bu yn ngwasanaeth cwmni yswiriol y Metropolitan am ysbaid o ugain mlynedd, ac yn ddiweddarach gyda cwmni y Prudential. Bu hefyd allan amryw weithiau fel casglydd i gwmni y "Drych," ac felly yr oedd yn adnabyddus i ddarllenwyr y "Drych" yn Mhennsylvania ac Ohio. Ychydig fisoedd yn ol aeth i weithio i'r Savage Arms, ac yno y bu hyd o fewn ychydig o ddyddiau i'w farwolaeth.
Gadawa i alaru ar ei ol ei briod a brawd, sef y Parch. William Williams, Bouckville, a dwy chwaer, Mrs. Anna Edwards a Sophio Hughes o'r ddinas hon. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod yn eglwys Coke Memorial, ac hefyd o'r Gwir Iforiaid. Cymerodd ei angladd le brydnawn ddydd Mawrth o'r ty, pryd y gwasanaethid gan y Parch. Richard Oliver, a'r Parch. John Isaac Hughes. Cleddir yn mynwent Forest Hill. Cydymdeimlir a'r teulu oll yn eu profedigaeth.
Humphrey Griffith.