MARY THOMAS WILLIAMS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn un o ysbytai y ddinas, wedi wythnos o afiechyd, sef y pneumonia, bu farw Mrs. Mary Thomas, priod Robert H. Williams, Brainerd Street.

Ganwyd hi yn Ngogledd Cymru 28 mlynedd yn ol, ac unwyd hi mewn priodas gyda Mr. Williams yn ei hen gartref. Oddeutu pum mlynedd yn ol, ymfudodd hi a'i phriod i'r wlad hon gan sefydlu yn Rome, ac oddi yno symudasant i Whitesboro.

Yr oedd yn aelod o'r eglwys Gymreig yn Rome.

Gedy mewn galar ei phriod ac un mab, ynghyd a'i rhieni a brodyr a chwiorydd yn Nghymru.

Y Drych ~ Hydref 17eg, 1918.


MARY THOMAS WILLIAMS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth y chwaer uchod, sef anwyl briod Robert H. Williams. Cherry Street, Rome, New York.

Ganwyd hi yn Penrhosgarnedd. Bangor, Gogledd Cymru, 28 mlynedd yn ol, a phan yn bump oed symudodd ei rhieni i Gwmyglo, Caernarfon. Enwau ei rhieni ydynt John a Margaret Thomas. Adwaenir ei thad oreu wrth yr enw Jack Tom Barbwr.

Yn Mehefin 16eg, 1910, ymunodd mewn priodas a Robert H. yn Caernarfon, Gogledd Cymru, ac ymfudodd i'r wlad hon yn Awst, 1914.

Nid oedd yn teimlo yn iach er ys misoedd, ond pan waethygodd, symudwyd hi i St. Luke's Hospital, Utica, fel ag iddi gael perffaith chwareu teg, ond cymerodd yr hen afiechyd fu yn ei bygwth fantais ar ei gwendid a gwnaeth fyr waith arni. Daeth y diwedd yn sydyn nos Sadwrn, Hydref 12fed. Yr oedd rhagoriaethau lawer yn perthyn i Mrs. Williams. Ni bu gwraig erioed mor anwyl, ymroddgar, llafurus a ffyddlawn, ac fel cymydoges yn llawn cydymdeimiad a chymwynasgarwch; llifai ei llestr drosodd mewn caredigrwydd bob amser yn barod i wasanaethu ar y rhai mewn angen.

Ei hoff lyfr oedd y Beibl. a'r "Cyfaill," a pleser mawr oedd hi yn gael wrth ddarllen y "Drych" lawer gwaith drosodd.

Cafodd angladd neillduol o barchus ddydd Mawrth. Hydref 15fed. Cynaliwyd y gwasanaeth yn y ty, pryd y cymerwyd rhan gan Dr. R. T. Roberts. Rome, yn hynod o deimladwy, ac hefyd canwyd amryw weithiau yn ddwys iawn gan Miss Mae V. Roberts, D. J. Williams, R. S. Jones a David Jones, yr oll o Rome. Rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn mynwent brydferth Wright Settlement. Yr archgludwr oeddynt, R. A. Jones, David Jones, R. S. Jones a D. J. Williams.

Gadawodd mewn galar a hiraeth ar ei hol, ei phrioi a'i mab bychan hoffus, ynghyd a'i thad a mam a saith o chwiorydd, sef Maggie, Lizzie, Lena yn Bedford. Lloegr, Annie yn Lerpwl Kate, Jane a Blodwen yn Cwmyglo. Gogledd Cymru. Bvdded nawdd y nef dros y teulu oll.
R. E.

Y Drych ~ Hydref 24ain, 1918.