RICHARD WILLIAMS. CHICAGO, COOK ISLAND, ILLINOIS.

Gofidus genyf gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth yr hen batriarch, Richard Williams, 3250 North Halsted Avenue, Chicago. Illinois, gynt o Cae Bricks, Aber, Gogledd Cymru, yr hwn a hunodd yn yr Iesu, Tachwedd 6ed, 1918, yn 70 mlwydd oed. Yr oedd o gymeriad glan a dilychwin. Byth ni chlywid air gwael am neb ganddo.

Cafodd ergyd o'r parlys tua pum mlynedd yn ol, ac yr oedd wedi ei anmharu yn enbyd, ac wedi mynd yn hollol ddiamddiffyn iddo ei hun.

Casglodd lawer o dda y byd hwn, ac unodd mewn priodas ag Ellmynes tua pedair blynedd yn ol a gwnaeth weithred priodas o'i holl eiddo, a chafodd rhai miloedd ar ol ei ddiweddar frawd John, yr hwn oedd yn amaethwr cyfoethog, yn y ddinas hon. Yr oedd ganddo chwaer o'r enw, Ann, yn Lerpwl; hithau wedi gadael hyn o fyd, ac hefyd y diweddar Daniel yn Llanfairfechan, Gogledd Cymru, hen Gristion anwyl yn church warden gyda'r Eglwys Loegr.

Yr wyf yn ei gofio am dros ugain mlynedd gan mai ar fronau yr hen fam Eglwys fe'm magwyd inau ac y mae yr enw yn gysegredig iawn i mi; felly gallaswn ddweyd llawer am y brawd anwyl yma. Daeth Richard Williams i Chicago yn o fuan ar ol y tan mawr, a gweithiodd yn y gas company am 30 o flynyddau, a deng mlynedd arall mewn printing company.

Anfonwyd plethdorchau hardd o'r ddau gwmni, a'r gair a chymeriad goreu gan bawb iddo. Mae iddo dri o neiaint yn Llanfairfechan, Gogledd Cymru, sef Richard, William Thomas, ac Evan; Eben yn Denver, Colorado, yn y cloddiau, a Daniel yn y ddinas hon. Bu yn dad rhagorol. Annghvhoedd oedd yr angladd, a dewisodd i gael yr archgludwyr fel y canlyn: John Williams, Gwyndy; Robert Griffiths, Moses O. Williams. John Williams (cefnder), Neal Martin, Richard T. Hughes.

Cafodd angladd tywysogaidd. Gwasanaethwyd wrth y ty a'r bedd gan ei hoff weinidog, yr hwn ni chefais ei enw. Siaradodd yn rhagorol iawn am dano. Cludwyd yr hyn oedd farwol o hono i fynwent Montrose hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Estynir cydymdeimlad a'r perthynasau yma a'r Hen Wlad, yn eu profedigaeth chwerw. Dymunir ar i bapyrau Cymru godi yr uchod.
Cymraes.

Y Drych ~ Rhagfyr 19eg, 1918.