WILLIAM GRIFFITH WILLIAMS. MILWAUKEE, WISCONSIN.

Ganol nos, Rhagfyr 20fed, 1918, ar ol salwch o wythnos dan yr ysgyfeinwst, bu farw William Griffith Williams, yn ei gartref. 1627 Miller Street.

Ganwyd ef yn Groeslon, Sir Gaernarfon. Gogledd Cymru, Awst 23ain, 1890. Tuag wyth mlynedd yn ol, ymfudodd i'r wlad hon ac i Utica. Yr oedd yn ngwasanaeth yr Iroquois Factory fel is-arolygydd.

Yr oedd yn aelod o eglwys Moriah a'r Iforiaid. Bu yn aelod hefyd o'r Odyddion. Yr oedd yn ddyn ieuanc parchus, gyda llawer o gyfeillion.

Ymbriododd ag Anna Ellen Lloyd, merch Mr. a Mrs. John Lloyd, Neilson St., yn 1914, yr hon a adewir gydag un mab, William Lloyd Williams. Gedy hefyd dad, William G. Williams, a brawd. Owen Williams, yn Nghymru, heblaw brawd arall, Thomas G. Williams, gyda'r A. E. F. yn Ffrainc.

Yr oedd yno lawer o flodau yn yr angladd, oddiwrth gyfeillion, gweithwyr yr Iroquois, a'r Iforiaid. Gweinyddid gan y Parchn. John Davies, D. D. a John Isaac Hughes. Moriah, a chafwyd canu teimladwy iawn dan arweiniad Thomas Jenkins.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1903.