WILLIAM THOMAS WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Prudd yw gorfod hysbysu am farwolaeth cynifer o bobi gydmarol ieuainc yr wythnosau hyn. ond y ffaith ydyw fod y rhan fwyaf a dorir i lawr gan yr afiechyd poenus yr influenza ag sydd yn anrheithio y tir, yn blant ieuainc neu rhwng yr oedran o 15 a 40.Bu farw William Thomas WiHiams, 1302 Dudley Avenue, ddydd Sadwrn diweddaf, ar ol ond ychydig ddyddiau o afiechyd. Brodor ydoedd o dueddau Bnntnewydd, Arfon, efe yn fab i'r diweddariaid Mr. a Mrs. Thomas Williams.
Yn 1907, ymfudodd i'r wlad hon, a daeth i fyw i'r ddinas hon, a bu yn gweithio ar y Rogers Farm yn Clinton am rai blynvddoedd, ond yn ddiweddar yr oedd wedi symud i'r ddinas. Rai blynyddoedd yn ol, ymbriododd a Nellie Williams, ac y mae yn aros o'r briodas dri o blant ieuainc, sef Gilbert, Charles a Dorothy.
Yr oedd Mr. Williams yn aelod o elwys Moriah, ac o Urdd y Gwir Iforiaid.
Foreu Mawrth, cymerodd yr angladd le pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. John Davies, D. D.