EVAN ROBERT BAXTER. CHICAGO, COOK ISLAND, ILLINOIS.

Unwaith eto galwyd ein sylw yn gryf iawn at ansicrwydd bywyd, a'r "awr ni thybioch." Foreu Gwener, Chwefror 7fed, am bum mynyd wedi 7, cyfarfyddodd Evan Baxter a damwain brofodd yn angeuol iddo, bron ar darawiad. Tra yn dylyn ei orchwyl gyda'r Chicago Surface Lines, cafodd ei wasgu cydrhwng y car a'r pared.

Foreu Sadwrn, dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.

Brydnawn Llun, ymgyn- ullodd torf o'i gyfeillion i dalu'r gymwynas olaf iddo. Cychwynodd yr angladd o gartref John Williams (Llwyn Onn), gyda pha un y bu yr ymadawedig yn trigianu y rhan fwyaf o'r saith mlynedd y bu yn y wlad hon. Cafwyd gwasanaeth yn Hebron, yn mha le yr oedd efe yn aelod. Yna rhoddwyd ef i orwedd yn dawel yn Forest Home Cemetery, bron ar lan yr afon Des-plaines. Dygwyd y gwasanaeth yn mlaen gan y gweinidog newydd, y Parch. Morris S. Jones, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. T. O. Jones. Cafwyd sylwadau grymus ac effeithiol ganddynt ag a gofir yn hir gan y rhai a'i clywsant.

Yr oedd y lluaws blodau hardd ddygwyd yno yn dangos mor gymeradwy yr oedd efe yma.

Ganwyd Evan Baxter yn Minffordd, Penrhyndeudraeth. Gogledd Cymru. Symudodd ei dad a'i fam yn ddiweddar i fyw i Lerpwl. Bu ei dad, Robert Baxter, yn arolygydd gwaith Setts, Minffordd, am flynyddau lawer. Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'r teulu yn eu profedigaeth lem.

Y Drych ~ Chwefror 20fed 1919.