JOHN A. DAVIES. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Dysgwyliasom dro ar ol tro weled ychydig gofiant am John A. Davies yn y "Drych," gan mai mwy cydnabyddus ag ef na ni; rhai gawsant gyfleusdra i'w weled ac yn ddyddan ag ef yn ystod y blynyddoedd dreiliodd yn ei wlad fabwysiedig, rhag i'w goffadwriaeth lithro heibio, a dysgwyliadau droi yn ofer, yr ydym ar gais ei briod, yn ogystal ag o barch i goffadwriaeth, yn anturio ysgrifenu ychydig linellau am dano, i'w dodi ar ddalen o'i newyddiadur hoff, y "Drych" i'r hwn yr ysgrifenodd lawer flynyddau yn ol.Ganwyd John A. Davies yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, Mawrth 17eg, 1847.
Ymfudodd i'r America gan ymsefydlu am gyfnod yn Bangor, yn y flwyddyn 1880. Yna fe briododd a Mrs. Jones, gweddw Thomas Jones. Chwarelwr ydoedd ein gwrthrych yn ol ei alwedigaeth, a gweithiodd yn ddiwyd a chaled flynyddau maith yn chwarelau Bangor a Wind Gap.
Cymerwyd ef yn wael oddeutu blwyddyn yn ol, a bu yn suddo yn raddol dan effaith yr afiechyd, ac er iddo gael caredigrwydd goreu ei briod, medrusrwydd ei feddyg, angeu a orfu a ehedodd ei ysbryd yn swn ei weddiau at yr Hwn a'i rhoes.
Hebryngwyd hyn oedd farwol i orwedd yn Cemetery Bangor, ddydd Mawrth, Mehefin 3ydd, 1919. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. R. E. Williams, Philadelphia, Pennsylvania; y Parch. John Hammond, Scranton, a J. T. Williams, Bangor.
Gadawodd i alaru ar ei ol, ei briod, pump o blant, sef John yn Philadelphia; Robert yn Bangor; David yn Philadelphia, Plato a Mrs. Harry Candalett yn Bangor; a dau frawd a chwaer, Mr. David Davies, Ffestiniog, Gogledd Cymru; Robert Davies (Barlwydon), Lerpwl; a chwaer ynf Nghaernarfon.
Teimlwn mai nid iawn ynom fyddai terfynu a John A. Davies ar hyn yr oblegid yr oedd yn ddyn o gymeriad; gwerth i'w efelychu. Gwir ei fod o natur fyrbwyll, fod yr elfen danllyd ynddo, ond addefai bob amser mai eiddigedd dros yr hyn a ystyriai yn iawn, a'i taniai; ac os y dygwyddai iddi ar adegau gael y llywodraeth drosto, byddai yn barod i gydnabod ei wendid, ac yn bur awyddus i ffoi oddiwrth achlysur o brofedigaeth. Byddai arno ofn tori llechau y cyfamod mewn byrbwylldra. Yr oedd o deimladau cenedlgarol uchel iawn; yn Gymro i graidd ei ysbryd. Yr oedd y Cymry ddiystyrant yr iaith Gymraeg i faldorddi Seisneg (chwenych yntau) yn ddirmygedig yn ei syniadau. Hefyd, yr oedd yn dwyn mawr sel dros ei enwad a'i gredo crefyddol. Yr oedd yn Fethodist Calfinaidd o galon. Carai ei enwad gydag aiddgarwch gonest, heb fod yn gul ei farn am enwadau eraill.
Gallai wneyd defnydd hwylus o ddewisedig adnodau i ategu ei gred crefyddol, ond am y gwyddai ei berygl i ymollwng i dymerau brwd, ciliai rhag dadl yn ami. Yr oedd ei syniadau am Dr. Lewis Edwards, David C. Davies Dr. Cynddylan Jones yn uchel iawn; yr oedd yn dra hyddysg yn hanes yr enwad, yn enwedig yn y maes cenadol.
Bu yn flaenor gyda'r enwad yn Wind Gap am yn agos i ugain mlynedd, a mae ei goffadwriaeth yno fel angel Libanus.
Yn ystod ei waeledd, y "Drych" a'r "Beibl" fyddai cynefin leoedd ei borfa. Bob tro y cefais gyfleusdra i ymweled ag ef pan yn ei gystudd, ysgrifau "Drych" ac adnodau o'r Beibl fyddai testyn y siarad, a difyr odiaeth fyddai egwyl. Hyderwn y gwasanaetha hyn yma o nodiadau i gadw yn wyrdd ddalen y "Drych" goffadwriaeth dyn dan Nawdd Duw fyddo dros ei weddw a'i blant.
O Dduw, Preswylydd gwledydd gwawr
Heddychawl nefoedd uchod,
Gwarchoda di ei fedd yn awr
Hyd floeddfawr wa'dd o'r beddrod.