JOHN ROBERTS DAVIES. RACINE, WISCONSIN.

Gorphenaf 10fed, bu farw Mr. John Roberts Davies, genedigol o Ffestiniog, ond wedi treulio rhan fawr o'i oes yn y wlad hon.

Mae iddo bedair chwaer a phum brawd yn Nghymru. Yr oedd yn 53 mlwydd oed.

Cymerodd yr angladd le o gartref Mr. David Davies, 829 Center Street, yr hwn oedd berthynas iddo, a gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. Joseph Roberts, D. D., a G. J. Parry, Oshkosh.

Y Drych ~ Awst 21ain 1919.