EVAN J. EVANS. GENESEE NEW YORK.

Yn ei gartref, 270 N. Genesee St., foreu dydd Llun, bu farw Evan J. Evans, ar ol cystudd o flwyddyn.

Ganwyd Mr. Evans yn Nghymru, 53 mlynedd yn ol, a bu yn byw beth amser yn Nelson, cyn dod i Utica.

Yn Nelson ymbriododd a Miss Leona Arnst. Daethant i Deerfield, ger Utica, 20 mlynedd yn ol. Heblaw ei weddw, gedy bump o ferched.

Y Drych ~ 23ain Ionawr 1919.