JOHN EVANS (EFROGYDD). NEW YORK.

Bu farw, Awst 11eg, yn St. Luke's Hospital, ar ol dyoddef pythefnos o gystudd caled o anhwyldeb y galon. Tua blwyddyn yn ol, bu yn bur wael o'r afiechyd peryglus y pneumonia, ac y canlyniad o hyny ydoedd i'r hen babell o glai fethu a dal.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1849, yn Talybont, Llanllechid, Gogledd Cymru. Ei rieni oeddynt y diweddar John a Jane Evans.

Pan yn ddwy-ar-hugain oed, teimlodd atdyniad y Gorllewin pell, ac ymfudodd i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn New York.

Yn y flwyddyn 1874, priododd a Mrs. Evans, a ganwyd iddynt dair merch ac un mab. Bu farw y merched yn eu babandod. Gadawodd i alaru ar ei ol, un mab, sef John P. Evans.

Bu y fam farw mis Hydref diweddaf, ar ol rhai blynyddau o gystudd.

Adwaenid yr ymadawedig oreu yn mhlith y Cymry wrth John Evans, 11th St., hyny i'w briodoli i'r ffaith iddo fod am ddeuddeg mlynedd-ar-hugain yn dal y swydd cyfrifol o Supt. ar "apartment house" ar 11th Street a 2nd Avenue. Tua blwyddyn yn ol, gwerthwyd yr adeilad i berchenogion St. Mark's Hospital, a gofalodd y cwmni fod iddo dderbyn pensiwn y gweddill o'i oes fel arwydd o werthfawrogiad o'i wasanaeth. Yr oedd yn un o'r Cymry mwyaf gwladgarol a gwyneb-agored, ac yn ymgomiwr dyddan. Yr oedd yn ymhyfrydu mewn gwneuthur cymwynasau, a bu yn hynod o garedig i lawer Cymro ar ei ddyfodiad i'r ddinas o'r Hen Wlad, trwy fyned oddiamgylch i geisio cael gwaith iddynt; a byddai yn hynod o lwyddianus.

Yr oedd ei hoffder at gerddoriaeth yn fawr; meddai ar lais tenor o ansawdd rhagorol, a byddai galwadau mynych arno tuag ugain mlynedd yn ol oddiwrth gymdeithasau corawl. Yr oedd yn aelod ffyddlawn o'r Druid Glee Club, un o'r corau meibion goreu yn y wlad, dan arweiniad y diweddar Gwilym Brycheiniog. Byddai gwrando arno yn adrodd hanes cystadleuaethau caled welodd yr amser a fu yn ddyddorus neillduol i'r sawl sydd o'r duedd gerddorol.

Yr oedd yn gyfaill mawr a ffyddlawn fel gohebydd i'r "Drych"; byddai bob amser yn ymdrechgar a phrydlon i anfon iddo newyddion Cymreig yn y ddinas, yn enwedig croniclo marwolaethau, a bydd yn chwith ar ei ol; ond y mae wedi ysgrifenu ei nodion olaf. Gan ei fod wedi ymddiosg oddiwrth bob peth daearol, a'r rhan ysbrydol ohono wedi myned, ni a lwyr gredwn iddo fyned i'r cartref tragwyddol yn y nefoedd.

Brydnawn dydd Gwener, cynaliwyd gwasanaeth angladdol iddo yn nghapel yr undertaker, 233 Lenox Avenue, pryd y daeth nifer dda yn nghyd o'i gyfeillion i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion. Gwasanaethwyd yn ddwys gan y Parchn. D. Morgan Richards a Joseph Evans. Canwyd rhai o hoff emynau, a daearwyd y gweddillion yn Woodlawn Cemetery.

Heddwch i'w lwch, a Thad yr amddifaid fyddo dyner o'i anwyl fab yn ei unigrwydd a'i brofedigaeth lem.
Gan Colwynian.

Y Drych ~ Medi 11eg 1919.