RICHARD MORRIS EVANS. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Yn nyffryn galar yr ydym yn cael ein hunain eto yn y pentref tawel hwn, a theimlwn mai gorchwyl anhawdd iawn ydyw cofnodi marwolaeth un ag yr oedd iddo le mor gynes yn nghalon pawb o honom, ac un hefyd a fu am lawer o flynyddoedd yn rhan hanfodol o fywyd yr ardal. Cyfeirio yr ydym at ymadawiad yr anwyl Richard M. Evans, yr hwn a adnabyddid oreu gan filoedd o Gymry y Talaethau wrth yr enw a gafodd gan ei gyfoedion yn nyddiau ei faboed gynt, sef Dic Mor.Tra yr oeddym ni yn gobeithio ac yn dysgwyl y cawsem ef yn ol i'n plith wedi atal y gwaith yn Ilion, New York, cawsom air oddiwrtho ef a'i briod eu bod yn symud yn hytrach draw i Plymouth, Pennsylvania, ond prin yr oeddynt wedi cyraedd i'r lle hwnw na tharawyd ef yn wael, a bu yn gorwedd am rai dyddiau yn nghartref Mr. Llewelyn Jones a'i briod, yr hon oedd yn berthynas iddo. Nid oedd neb yn meddwl fod perygl neillduol yn ei afiechyd, ond er pob gofal a medrusrwydd meddygol, brydnawn dydd Llun, Chwefror 10fed, ehedodd ei ysbryd yn dawel at yr Hwn a'i rhoes.
Gwnaed trefniadau ar unwaith i hebrwng ei weddillion i'w claddu yn mhriddellau ei West Pawlet anwyl, a daeth ei gyfnither, Mrs. Llewelyn Jones, yr holl ffordd gyda Mrs. Evans, er ei chynorthwyo a'i chysuro yn ei galar a'i hunigrwydd; hefyd, y brawd Richard Jones (Penmachno) a'i briod, a ddaethant gyda hwy er dangos eu parch a'u hymlyniad wrth un oedd yn anwyl iawn yn eu golwg. Cyraeddwyd i West Pawlet, nos Fercher, a dydd Sadwrn, y 15fed, cynaliwyd y gwasanaeth angladdol, yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, lle yr oedd yr ymadawedig yn flaenor o radd dda.
Gwasanaethwyd yn yr angladd gan ei weinidog, y Parch. W. O. Williams, Granville, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. R. W. Owen, gweinidog Fair Haven, a'r Parch. John W. Morris, South Poultney. Hawdd ydoedd gweled ddydd ei angladd ein bod yn claddu un ag oedd yn anwyl iawn gan breswylwyr y dyffryn hwn, a hyny ar gyfrif ei gymeriad fel Cristion cywir, ac un o oleuadau diwygiad 1905; a hefyd un o golofnau cryfaf Eglwys Iesu Grist.
Ganwyd Richard M. Evans yn Llidiard y Gwaenydd, Bethesda, Arfon, 65 o flynyddau yn ol. Mab ydoedd Morris Evans, yr hwn a fu am oes faith yn flaenor y gan yn nghapel y Carneddi.
Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1873, ac aeth i Middle Granville, gan wneyd ei gartref gyda'i ewythr, Griffith Davies (yr Hen Wlad). Symudodd oddiyno i West Pawlet, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, a'r lle hefyd y priododd un o ragorolion y ddaear fel priod ffyddlon, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo am lawer o flynyddoedd, ond collodd hi drwy farwolaeth rai blynyddau yn ol. Priododd yr ail waith a Mary Ellen, merch William a Mary Hughes, Pantglas, Bethesda, Gogledd Cymru, yr hon fu o fendith fawr iddo ac yn dra gofalus o hono hyd y diwedd, ac y mae iddi gydymdeimlad puraf yr ardal a'r dyffryn hwn yn ei galar a'i hunigedd.
Perthynai i Richard M. lawer iawn o ragoriaethau, ac yr oedd iddo ryw swyn rhyfeddol mewn cerddoriaeth, a bendithiwyd ef tu hwnt i'r cyffredin a llais tenor o'r fath bereiddiaf, a chanodd lawer iawn ar hyd ei oes, yn Nghymru ac America; a diameu fod adsain ei gan yn nghlustiau a chalon llawer o'i hen gyfeillion, gan fel y'i clywyd ganwaith yn canu molawd ei ardal enedigol, "Bethesda hardd," yn nghyd a llawer o ganeuon eraill ddangosent fod i Gymru ei phobl a'i phethau le cynes ac anwyl yn ei galon gynes a cherddgar.
Wel, bellach, y mae wedi tewi am byth yn y byd hwn; ond o drugaredd, y mae genym bob sicrwydd ei fod wedi cael ymuno a'r "peraidd gor diddarfod fry," ac mai yn "mhen mil o oesoedd maith na bydd ei gan ond dechreu." Bydd arnom hiraeth trwm am Dic Mor mewn llawer cylch, yn gymdeithasol a chrefyddol; ond ni chawn ei gwmni mwy, hyd nes, fel y gobeithiwn, y cawn ymuno ag ef ar orielau'r gerddorfa hono yn Ngwynfa.
"Yna ffarwel i bob canu
Ond y canu hwnw mwy."
Dymuna Mrs. Evans drwy hyn wneyd dadganiad o'i diolchgarwoh puraf i'w holl garedigion am eu cydymdeimlad tuag ati yn awr ei phrofedigaeth. Nis gall byth annghofio pobl dda Plymouth, pa rai a ddangosasant iddi bob mwyneidd-dra a chariad yn awr y brofedigaeth.
Gan Gwlithyn.
Y Drych ~ Chwefror 27ain, 1919.
RICHARD MORRIS EVANS. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Ryw ddwy wythnos yn ol, cyraeddodd y newydd am farwolaeth sydyn Richard Morris Evans, West Pawlet, Vermont, yma.Daeth i Ilion i weithio yn yr haf diweddaf, a bu yn ffyddlon iawn yn nghyfarfodydd yr eglwys Gymreig. er nad oedd efe a Mrs. Evans wedi codi eu papyrau aelodaeth o West Pawlet. Yr oedd y brawd yn meddu ar brofiad uchel, ac yn wresog yn yr ysbryd yn canmol trefn achub. Nid oedd neb yn ameu ei dduwioldeb. Rhyw ddwy wythnos oedd er pan oedd wedi ymadael oddiyma. Y gyfeillach ddiweddaf y bu yma, canmolai ras Duw a threfn y cadw gyda hwyl, a diweddodd trwy adrodd un o'i hoff emynau, sef:
"Y gwr a fu gynt o dan hoelion
Dros ddyn pechadurus fel fi., a.y.
Yn y gyfeillach ddylynol, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mrs. Evans, ei briod, yn ei phrofedigaeth chwerw, ac anfonwyd blodeuglwm hardd i'w roddi ar ei arch oddiwrth Gymry Ilion. Yr Arglwydd a fyddo yn nodded ac yn gysgod i'w briod yw ein dymuniad.