MARGARET ELIZABETH OWEN GRIFFITH. DELAWARE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Am 1:30 boreu Llun, Gorphenaf 28ain, bu farw Margaret Elizabeth, priod Mr. J. Humphreys Griffith.Ganwyd y chwaer yn Nghaernarfon, Gorphenaf 2ail, 36 mlynedd yn ol, ac yn ferch i Mr. Owen Owen, a'r ddiweddar Mrs. Jane Owen, 13 Hill Street, Caernarfon, ac yn wyres i'r diweddar William Owen (duwinydd), y teulu yn adnabyddus yn Ngogledd Cymru fel gwerthwyr cyntaf "burym sych." Bu y chwaer yn gwasanaethu fel milliner yn Shop y Porth, ac aeth oddiyno i Bangor, yna drachefn yn Shop Newydd, Llangefni.
Ymfudodd i'r wlad hon yn Medi, 1910, gan ymsefydlu yn ein dinas, a hyny o herwydd fod ei Jack wedi ei rhagflaenu, ac wedi ymsefydlu yma.
Hydref 12fed, 1910, yn yr eglwys Gymreig, gan y Parch. R. E. Williams, ymbriododd a Mr. J. Humphreys Griffith, efe yn adnabyddus fel gohebydd y "Drych" o'n dinas. Mae ei thad a'i chwaer, Annie, yn byw yn Nghaernarfon; ei chwaer, Emily, yn Llundain; ei brawd, John, yn Ffestiniog, a William yn Lerpwl. Hefyd, brawd i'w thad ydyw Mr. E. Humphrey Owen, Wilkes- Barre, yr hwn yn nghyd a'i ferch, Mrs. Sam Lloyd, ddaethant yma i'r angladd.
Tua pum mlynedd yn ol, talodd y chwaer ymadawedig ymweliad a'r Hen Wlad, a bron na ddywedwn ei bod wedi dechreu gwaelu er amser ei dychweliad yn ol. Dyoddefodd yn dawel gystudd maith a blin. Tua dau fis yn ol, gorchymynodd ei meddyg iddi fyned i Hammonton, New Jersey, gan fawr obeithio y byddai i hinsawdd iachus y lle ei chynorthwyo i gryfhau, ond fel arall y bu, a gwaethygodd gymaint fel y bu raid dod a hi yn ol i'w chartref, 5921 Osage Avenue, i farw.
Mynychai y capel yn ffyddlon tra y caniatai ei hiechyd, ac er i'w hiechyd ffaelu, yr oedd ei chariad a'i ffyddlondeb i'w Cheidwad anwyl yn cryfhau bob dydd. Yr oedd wedi meddianu llawer iawn o'r anchwiliadwy olud, ac O, y fath nefoedd fach oedd cael bod yn agos ati yn ei horiau olaf ar yr hen ddaear yma - yn gwrandaw arni yn trefnu pob peth, yn cyngori, yn cysuro, yn adrodd adnodau, emynau, profiadau - yr holl pethau hyny ag sydd yn addfedu y saint i'r nefoedd.
Gadawodd ar ei hol, ei phriod, a Gwyneth, geneth fach bert chwe blwydd oed. Bu Mr. E. Humphrey Owen a'r ferch yma ar ymweliad a'r teulu amryw weithiau tra y bu Mrs. Griffith yn wael. Hefyd, yr oedd hi yn dysgwyl yn bryderus cael gweled ei chwaer, Emily, yn cyraedd yma o Lundain, ond yr ydym yn deall fod Miss Owen yn barod i hwylio er's dros dri mis, ond yn methu yn lan a chael passport gan y llywodraeth yn yr Hen Wlad, ac nid ydyw wedi cyraedd hyd yn hyn.
Cymerodd yr angladd le brydnawn dydd Mercher, Gorphenaf 30ain, pryd y daeth tyrfa luosog o'r Cymry yn nghyd. Gwasanaethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan ei gweinidog, y Parch. R. E. Williams. Canwyd hefyd amryw o'i hoff emynau. Cafodd ei chladdu yn mynwent brydferth Arlington. Cludwyd y corff gan y rhai canlynol, sef hogiau Caernarfon: Tom Jones (Wynne St.); Hugh Pritchard (Glynrhonwy); Dan Hughes (mab y diweddar Daniel Hughes, Eryri Works); William D. Griffith (mab Mr. Griffiths vaults); a'r ysgrifenydd.
Yr oedd y blodau yn hardd, wedi eu hanfon gan lu o gyfeillion y teulu, hefyd yr eglwys Gymreig, Cymdeithas y Ladies' Aid, ac o swyddfa yr Evening Bulletin. Nos Sabboth diweddaf, yn yr eglwys Gymreig, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr. Griffith a'r eneth fach yn eu profedigaeth, gan obeithio y bydd i Dad yr Amddifaid eu nerthu a'u cysuro yn eu profedigaeth.
Gan John Ed.