GRIFFITH GRIFFITHS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mewn canlyniad i ddamwain a ddygwyddodd iddo trwy syrthio ar bibell haiarn guddiedig, torodd Griffith Griffiths (o gwmni Griffiths and Pierce, adeiladwyr) ei goes rai wythnosau yn ol, fel y mae yn hysbys i lawer o ddarllenwyr y "Drych."

Cymerwyd ef i Ysbyty St. Luke o'r Shenandoah Cotton Mill, lle yr oedd yn arolygu adeiladwaith pan anafwyd ef. Bu yno mewn mesur o boen ar brydiau, ond nid anobeithid am ei adferiad hyd nes y daeth afiechydon i mewn mewn cysylltiad a'r anaf. Yr oedd wedi bod mewn lle amlwg mewn cysylltiad ag adeiladu yn y ddinas er's 30 mlynedd. Wele rai o'r adeiladau weithiwyd allan gan y cwmni: Hotel Utica, Ysbyty St. Luke, Utica Free Academy, Wetmore Street School, Hudson River Power House, Moravian Church, Church of the Reconciliation, Utica and Mohawk Valley Car Sheds, Oneida County Hospital, Rome. Saif y cwmni yn uchel mewn ymddiriedaeth.

Yr oedd yn aelod amlwg yn eglwys Gynulleidfaol Plymouth, ac yn ymddiriedolwr iddi. Yr oedd yn aelod o'r Cymreigyddion a'r Master Masons and Builders Association.

Ganwyd ef yn Nghymru, yn Sir Gaernarfon, ni gredwn, Rhagfyr 23ain, 1859, yn fab i'r diweddar John a Mary Roberts Griffiths. Cafodd addysg lled dda yn yr Hen Wlad, a daeth i Utica yn 24 oed.

Priododd yn 1889, Mai 13eg, a Miss Mary Davies, yr hon a fu farw gan adael iddo un mab, Waldo, yr hwn sydd yn aelod o Gwmni L., 51st Pioneer Infantry, ac yn bresenol gyda'r fyddin warcheidiol yn Germani.

Diau y cydymdeimlir yn fawr ag ef yn clywed y newydd am farw ei dad, ac yntau heb gael bod yn agos ato yn y diwedd. Y mae wyres i Mr. Griffiths, Edith Hetherington Griffiths yn byw yn bresenol yn y ddinas. Merch ydoedd ei wraig gyntaf i John a Hannah Roberts Davies; a'r ail wraig, Mrs. Jennie Griffiths, merch i Robert Cromie, o'r ddinas hon, yr hon a fu farw yn 1913. Heblaw y rhai hyn, y mae iddo ddwy chwaer yn Nghymru. Teimlir colled ar ol yr ymadawedig mewn llawer cylch.

Y Drych Mai 15fed, 1919.