JOHN C. GRIFFITHS. UTICA, PLAINFIELD, OTSEGO, NEW YORK.

"Gwr glan a dilwgr ei glad - un diwyd
Na adawai athrod
Niweidiawl, annuwiawl, nod,
I dyfu ar ei dafod."

Gyda meddwl prudd a thelmlad hiraethus, yr ydym yn eistedd i gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth Mr. John C. Griffiths, Unadilla Forks, New York, yr hyn a gymerodd le foreu Sadwrn, y cyntaf o Fawrth, 1919, ym mhreswylfod ei ferch, priod y Parch. I. T. Williams, Scranton, Pennsylvania. Aeth Mr. Griffiths a'i briod i Scranton yn yr hydref, gyda'r bwriad o dreulio y gauaf yno, a chael adgyfnerthiad iechyd. Yr oedd ei iechyd er's amser yn gwanychu, ond yr oedd yn ddyn mor siriol ei ysbryd fel na thybiodd ond ychydig o honom fod dydd yr ymddatodiad mor agos.

Y diweddar a'r anfarwol Owen Thomas, Lerpwl, ar ddechreu biwyddyn, yn taflu ei olwg dros symudiadau a chyfnewidiadau gymerodd le yn ei eglwys, a'r brodyr a'r chwiorydd oeddynt wedi eu symud trwy angeu, yn nghanol y tawelwch prudd, a ofynodd: "Pwy, tybed, o honom ni gaiff eu gogoneddu eleni?"

Dyn lanwodd gylchoedd bywyd i'w hymylon ydoedd John C. Griffiths. Yr oedd yn ddinesydd rhagorol, yn rhoddi sylw arbenig ar fod swyddogaethau gwladwriaethol yn cael eu cadw yn lan. Fel cymydog, yn rhoi yn garedig, ac yn rhoi benthyg. Cafodd llawer gwan help llaw John C. Griffiths, ac maent ar eu traed heddyw, ac amgylchiadau bywyd o dan eu reolaeth. Fel Cristion, yr oedd yn egwyddorol grefyddol. Yr oedd yn ddyn oedd yn meddu gallu ac ewyllys oedd yn cydrhedeg; ei weddi a'i waith mewn perffaith cydgordiad. Gallai y "gareg o'r mur dysiolaethu, a'r trawst ateb o'r gwaith coed," pe angen i gywirdeb ein gosodiad. Cynwysa y penill bychan fyddwn yn canu mor aml gyffes ffydd John C. Griffiths:

"Yn dy waith y mae fy mywyd,
Yn dy waith y mae fy hedd;
Yn dy waith yr wyf am aros
Tra yr ochr hyn i'r bedd."

Llanwodd gylchoedd lluosog; bu yn aelod am dros driugain mlynedd, a swyddog doeth am fwy na haner can mlynedd; yn athraw yn yr Ysgol Sul ai hyd ei oes. Gweithredodd fel ysgrifenydd i'r eglwys am flynyddau meithion; byth yn blino, ac awydd angerddol am weled pawb yn cael rhan yn y gwaith. Yr oedd yn ddarllenwr mawr; yr oedd cylchgronau misol yn dod i'w gartref yn gyson. Ond ei brif faes oedd y Beibl. Mi fyddai yn foddion gras i bobl ieuainc yr oes hon weled Beibl John C., fel y mae cynifer o wahanol adnodau a gwirioneddau wedi cael gafael ar ei feddwl.

Ganwyd gwrthrych ein hysgrif yn Nghymru yn y flwyddyn 1847. Enwau ei rieni oeddynt, Francis ac M. Griffiths. Pan nad oedd John C. ond dwy flwvdd oed, croesodd ei rieni ac yntau for y Werydd. Y teulu yn gyflawn oeddynt, Mr. Evan F. Griffiths, Plainfield, a'r ferch, Mrs. H. Roberts, sydd ers rhai blynyddau yn West Winfield, wedi ymddeol o ofalon amaethu.

Yn 1874, ymbriododd John C. Griffiths ag un Miss Mary Read, geneth ieuanc y pryd hwnw, o ardal Talysarn, Sir Gaernarfon. Croesodd y mor yn ngwanwyn 1871. Merch yw i John Read. Yr oedd Mr. Read yn swyddog yn eglwys yr anfarwol John Jones, Talysarn. Mae un chwaer iddi yma, sef Mrs. John Henry Williams, ond yn llesg a gwan er's blynyddau.

Ganwyd o'r briodas, dri o blant; dwy eneth ac un mab. Bu farw un eneth pan tua phedair-ar-hugain oed. Mae yn aros, Mrs. Alice Williams, priod y Parch. I. T. Williams, Scranton, Pennsylvania, a mab. Mr. Homer Griffiths, amaethwr cyfrifol yn ardal Unadilla Forks, a pha rai y mae cydymdeimlad yr ardal; mewn modd arbenig, Mrs. Griffiths, y weddw, wedi bod yn hir gydweithio yn yr anial. Yr amddiffyn dwyfol fo yn aros tros yr oll.

Dangoswyd parch mawr i'r ymadawedig gan bobl dda Scranton,- teilwng o Eglwys Iesu Grist. Cynaliwyd gwasanaeth wrth gychwyn corff ein cyfaill, foreu ddydd Mercher, a cyraeddwyd Unadilla Forks nos yr un dydd. Dranoeth, sef dydd Iau, ymgynullodd y cymydogion o bob rhan i dalu teyrnged olaf o goffadwriaeth iddo. Cynaliwyd y gwasanaeth yn addoldy y Bedyddwyr Seisneg. Arweiniwyd y gweithrediadau gan y Parch. Abram Jones, a darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. T. Newman. Canwyd gan y cor, "Cawn esgyn o'r dyrys anialiwch," anerchwyd y gynulleidfa gan yr ysgrifenydd, a phregethwyd gan Dr. Richard Hughes, Holland Patent. Canodd y cor, "Lead, Kindly Light," ac ymunodd y dorf i ganu yr hen emyn, "Bydd myrdd o ryfeddodau." Yna ffurfiwyd yr orymdaith at lan y bedd, lle y gosodwyd ei gorff i orphwys mewn gwir ddyogel obaith am adgyfodiad gwell.

Y Drych ~ Mawrth 27ain, 1919.